Mae dydd Sadwrn olaf mis Ebril yn ddiwrnod pwysig yn nhref Aberteifi ers blynyddoedd. Dyma'r diwrnod a elwir yn ddydd Sadwrn Barlys a bydd tyrfa enfawr yn heidio i'r dref er mwyn gweld ceffylau yn carlamu drwy'r strydoedd yn dilyn y sioe. Yn draddodiadol dyma'r diwrnod i ddatgan bod y tir wedi ei baratoi, yr hadau yn y pridd a chyfle i'r gweision ddathlu hynny. Un peth sy'n sicr, mae enillwyr y cwpanau eleni yn siwr o ddathlu!
I un awdures o Aberteifi, sy'n bridio ac arddangos ceffylau Shetland, yr oedd dydd Sadwrn Ebrill 25 yn ddiwrnod pwysig am reswm arall. Yr oedd Anwen Francis yn lansio 'Siani am Byth', chweched nofel cyfres 'Siani'r Shetland', yn siop Awen Teifi. Yna daeth dipyn o gob i ymuno gyda hi am hanner dydd, Dewi Pws o Dresaith.
Meddai Dewi, "Ma Siani am byth yn carlamu'n ddi-stop o'r storom ofnadwy ar y dechre hyd at y gacen siocled ola. Ges i'r union run pleser o ddarllen y stori ag 'ro'n i'n ca'l bob pnawn dydd Gwener yn Ysgol Lonlas wrth wrando ar ein hathro, Mr Phillips, yn darllen straeon am ddynion drwg, smyglars a lladron pen ffordd."
Dyma'r llyfr olaf yng nghyfres anturiaethau Siani'r Shetland ac mae hi wedi bod yn un helynt ar 么l y llall ar Fferm Parc yr Ebol. Stormydd mellt a tharanau, llifogydd, diflaniad Aneirin yr asyn, anaf i Beca heb s么n am y lladron. Ond o leiaf daeth Sioe Aberteifi i godi tipyn ar hwyliau pawb.
Yng nghanol yr holl helynt, mae un peth yn sicr. Does dim all rwystro Siani'r Shetland!
Am fanylion pellach, cysylltwch 芒 Siani am Byth!, Anwen Francis, Gwasg Gomer. ISDN 978184510449. Pris y llyfr yw 拢4.99. Mae teitlau eraill yn y gyfres yn cynnwys Siani'r Shetland, Campau Siani'r Shetland a Nadolig Llawen Siani, Siani'n Achub y Dydd a Siani ar Garlam.
|