Yr athrawes Saesneg a Gwleidyddiaeth, Miss Jane Wyn. Y mae Miss Wyn wedi cael ei phenodi i'r Adran Saesneg yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan, ac mi fydd hi'n dechrau ar ei swydd newydd ym mis Ionawr.
Ers cychwyn ei gwaith yn yr ysgol hon ym mis Medi 2005, y mae Miss Wyn wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr a chlodwiw tu hwnt, gan ysgogi disgyblion di-ri' i ymddiddori mewn llenyddiaeth Saesneg drwy ei brwdfrydedd a'i chariad amlwg tuag at y pwnc.
Yn ogystal 芒'i dyletswyddau fel athrawes pwnc, mae Miss Wyn wedi gwneud cyfraniad hynod, yngh欧d 芒 Mr Higginson, tuag at sefydlu traddodiad siarad cyhoeddus a dadlau yn yr ysgol. Mae'r t卯m a sefydlwyd ganddi yn ystod ei hwythnosau cyntaf yn yr ysgol yn dal i gystadlu yn frwd, ac rwy'n sicr ein bod yn ddiolchgar tu hwnt am y cyfleodd a roddwyd i ni. Gan iddi hi ei hunan gynrychioli Cymru mewn cystadlaethau siarad cyhoeddus yn y gorffennol, y mae ei chyngor a'i chymorth bob amser yn ddeallus ac heb os nac oni bai, rydym wedi ffynnu o dan ei hadain fedrus.
Bu Miss Jane Wyn yn gweithio yn y cyfryngau fel newyddiadurwraig am nifer o flynyddoedd cyn troi ei doniau at ddysgu, ac mae'r profiadau y cafodd yn ystod y cyfnod hwnnw wedi darparu trysorfa o straeon a j么cs y mae'n mwynhau rhannu 芒 'r disgyblion yn ei gofal! Athrawes yw hon sy'n hoffi diddanu, a chlywn ei chwerthiniad rhwydd yn aml yn atseinio o gwmpas yr Adran Saesneg!
Mi fydd yr Adran Saesneg yn enwedig yn gweld eisiau Miss Wyn; un a oedd o hyd mor weithgar ac o hyd yn barod i helpu. Dywed Mr. P. Higginson fod Miss Wyn yn berson "byrlymus, bywiog, a chyda meddwl mor dreiddgar 芒 chyllell". Yn sicr mae hyn yn farn sy'n cael ei rhannu gan bawb a fu'n cyd-weithio gyda hi.
Ond, wrth gwrs, mae'n rhaid edrych i'r dyfodol, ac i'r cyfleoedd gwych a fydd yn dod i law Miss Wyn wrth iddi gychwyn mewn swydd newydd. Er i ninnau drist谩u o golli'r athrawes arbennig hon, mae'n rhaid inni lawenhau yn ei llwyddiant hi. Dymunwn bob lwc, bendith a rhwydd hynt iddi yn y dyfodol, a hyderwn y bydd hi'n parhau i ysbrydoli ac ehangu gorwelion cenedlaethau o ddisgyblion yn y dyfodol.
Gan: Iwan Davies
|