Ar y dechrau o'n i ddim mo'yn cymryd rhan yn y rhaglen Waw Ffactor o gwbl, credwch neu beidio! Roedd y clyweliadau eu hunain yng Nghaerdydd, Abertawe a'r trefi mawr eraill, felly o'n i heb feddwl am neud dim am y peth.
Ond daeth galwad ffon i swyddfa yr ysgol, yn dweud fod Caryl Parry Jones am ddod 芒 dau gerddor gyda hi, ac am gynnal clyweliadau yn yr ysgol y diwrnod nesaf. O'n i dal ddim yn barod i gymryd rhan! Yr unig reswm wnes i oedd oherwydd mai gwers cerdd oedd gyda fi y bore hwnnw, ac yn yr ystafell honno roedd y clyweliadau yn cael eu cynnal, felly doedd dim llawer o ddewis da fi!
O'n i lan am benwythnos yng Nghaer, pan ges i alwad ff么n wrth Caryl Parry Jones, a fe wnaeth hi ddatgelu fy mod i wedi ei gwneud hi i mewn i'r 20 olaf. Dwi'n dal, nes y diwrnod hwn yn cael fy mhoeni am fy ymateb di-gyffro i'r newyddion!
Wnes i ddim cyffroi yn l芒n o gwbl; yn anffodus, o'n i'n fwy ofnus na hapus i ddweud y lleiaf. O'n i ddim ishe y wlad gyfan i 'ngweld i yn canu o flaen y beirniaid, gyda nhw yn fy meirniadu yn llym! O'n i wir ddim yn gwbod beth i neud! Ond fe wnes i feddwl am y cannoedd o bobl eraill a oedd wedi cael clyweliad, ac yn ysu am y siawns o fod yn yr 20 olaf, o'n i ddim ishe bod yn anniolchgar, felly fe es i amdani.
Yng Nghanolfan y Mileniwm oedd rownd 1 a 2 yn cael eu cynnal ac efallai dyma'r rowndiau mwyaf anodd a'r rhai roeddwn yn teimlo fwyaf nerfus gan nad o'n i yn nabod neb bron a'r sefyllfa ei hunan mor ddierth i fi.
Roedd rowndiau 3-5 yn stiwdio Enfys, yn y bae yng Nghaerdydd. Roedd canu mewn stiwdio teledu'n brofiad hollol newydd i fi, ac ar y dechrau o'n i ddim yn hoffi'r camer芒u o gwbl, ond o'n i'n dod i arfer gyda chamera ym mhob man o'n i'n mynd erbyn y diwedd! Wrth gwrs ar gyfer y ffeinal fe wnaethom ni symud i stiwdio llawer iawn yn fwy, ac o'dd hwnna yn HTV, Croescwrlwys. Dim ond ar gyfer y ffeinal y cawsom ni wersi dawnsio, a fues i'n fwy lwcus na'r ddau arall, o'n i wedi cael y siawns i ddod n么l 芒'r git芒r unwaith eto, ac o'dd hynny'n gr锚t!
Y cerddorion oedd yn dewis y caneuon ar gyfer pawb yn y gystadleuaeth. Mae gen i ddau ffefryn o'r gyfres, yn gyntaf "Y Garreg Las" a gyfansoddwyd gan enillydd C芒n i Gymru eleni, sef Ryland Teifi. O'dd hi'n brofiad anhygoel i gydweithio gydag un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru, ac o'n i'n dwli ar y g芒n! Y ffefryn arall oedd y g芒n gyntaf wnes i ganu yn y ffeinal, sef "Rhywun fel ti. " Cyfieithiad yw hon wrth gwrs, ond mae hi'n yffach o g芒n dda! Allen i ddim fod wedi gofyn am well! Allwn i chwaith fod wedi gofyn am well hyfforddwraig canu na Caryl ParryJones.
Dwi'n dal i gredu fod rhaniad ym mhanel y beirniaid, o ran y ddau a oedd o'm mhlaid i a'r ddau arall o blaid Aimee. Teimlaf mai Bethan Elfyn a Huw Chiswell oedd fwyaf cefnogol ohona i yn ystod y gyfres, ond mae'r pedwar ohonynt yn bobl neis a chyfeillgar iawn mewn gwirionedd. Hefyd yn ystod y rowndiau a oedd wedi cael eu recordio o flaen llaw (sef pob un ohonynt heblaw'r ffeinal) roedd adborth y beirniaid yn parhau llawer yn hirach na beth weloch chi adre' ar y rhaglen. Cefais adborth positif iawn wrth Owen Powell yn un o'r rowndiau ond wnaethon nhw ddim ei ddangos ar y rhaglen.
Ar 么l cael ein torri lawr i 8, roedd pawb wedi adeiladu perthynas agos iawn, ac roedd nifer o bobl a oedd yn gweithio ar y rhaglen, tu 么l i'r camera yn dweud mai ni oedd y criw agosaf oedden nhw erioed wedi cael ar y gyfres. Dwi ddim yn si诺r pam, efallai oherwydd ein bod ni i gyd mor ifanc.
Roedden ni wedi gorffen recordio pob rhaglen erbyn dechrau mis Chwefror, cyn i'r gyfres hyd yn oed ddechrau ar y teledu, ac felly roedd y tri ohonom a oedd ar 么l, yn gorfod aros am amser hir iawn, iawn, cyn y cam nesaf. Gan fod gymaint o amser gyda ni, fe wnaethom ni ddod hyd yn oed yn fwy o ffrindie, gan fod mewn cysylltiad gyda'r ddau bron bob dydd, drwy decst!
Cyn i'r ffeinal fynd yn fyw drwy Gymru gyfan, roedd y pili palas yn hedfan yn wyllt yn fy stumog, fy ngheg yn sych grimp ond roedd y ddau arall yn hollol c诺l, felly i'r gwrthwyneb ag o'r blaen, fi o'dd yr un c诺l i fod! Unwaith roedd y g芒n gyntaf "Crazy Horses" drosodd, roedd y nerfau wedi diflannu ac fe wnes i fwynhau'r profiad o fod yn rhan o raglen fyw, am y tro cyntaf erioed, i'r eithaf.
Dwi wedi dechrau recordio fy sengl erbyn hyn, a fydd allan yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych. Ar y sengl mae "W Capten" gan Eliffant, "Y Garreg Las" gan Ryland Teifi, ac mi fydd un g芒n newydd sbon arni, ond allai ddim a datgelu beth yw honno eto. Felly gobeithio bydd hi'n gwerthu yn dda!
Dwi ddim yn si诺r ar hyn o bryd beth fydd yn digwydd yn y tymor hir. Wrth gwrs, hoffen i barhau i berfformio, ond rywffordd dwi ddim yn credu fyddai yn gallu gwneud bywoliaeth allan ohono.
Bydd y profiad yma yn aros yn y cof am amser hir, ac mae wedi bod yn daith hir, ond allai ddweud yn onest, nad ydw i'n difaru dim! Er mod i'n amau ar y dechre, rwy'n falch iawn mod i wedi cymryd y cyfle gan i'r profiad fod yn ffantastig.
Diolch i bawb a wnaeth fy nghefnogi, yr holl alwadau ff么n yn y ffeinal, roedd pob un ohonynt yn cyfri! Diolch hefyd am yr holl alwadau ff么n, pob tecst a chardiau di-ri wedi'r rhaglen. Diolch yn fawr!
Einir Dafydd