Mae Twm Carnabwth - Thomas Rees - yn un o gymeriadau chwedlonol Gorllewin Cymru. Hanes Twm Carnabwth Twm o'i fwthyn llwm ar lethrau'r Preselau, arweiniodd y fintai honno o 'Ferched Beca' i ymosod ar dollborth Efailwen deirgwaith yn ystod Haf 1839. Roedd gwerinwyr yr ardal o'r farn mai gorthrwm oedd codi tollborth arall a hynny'n arbennig am mai Sais, Thomas Bullin, oedd 芒'i fryd ar wneud elw oedd wedi ei chodi. Ychwanegai at galedu'r ffermwyr am eu bod yn arfer cyrchu calch o Eglwyslwyd i geisio achlesu eu tiroedd llwm. Roedd talu am y calch yn ddigon o faich. Byddai talu am ei gludo trwy dollborth yn faich ychwanegol - ac yn anghyfiawn yn eu golwg nhw. Dyna pam yr arweiniodd Twm Carnabwth fintai o ddynion liw nos i chwalu'r iet. Ar 么l ei chwalu'r trydydd tro liw dydd gyda thorf o 500 o gefnogwyr rhoddodd Thomas Bullin y gore i'r syniad o gasglu tollau yn Efailwen. Ail-fyw'r digwyddiad ac olrhain yr amgylchiadau arweiniodd at derfysg Merched Beca fydd y sioe 'Carnabwth' ar Sgw芒r Maenclochog ar Orffennaf 17,18,19. Penderfynodd y gwrthryfelwyr wisgo peisiau, siolau a bonedi am fod yna goel gwlad na fyddai gwragedd yn cael eu harestio au herlyn am herian y gyfraith. Yn 么l y s么n 'Beca' oedd enwr wraig lysti roes fenthyg ei phais i Twm a byddai'r gwyr yn galw ei gilydd yn 么l enwau perchnogion y dillad roedden nhw'n eu gwisgo. Pwy oedd Twm? Sut fachan oedd e? Mae'r straeon amdano yn lleng. Deallir ei fod yn ymladdwr ffeiriau dansheris. Yn wir, fe gollodd lygad mewn sgarmes ty tafarn wyth mlynedd wedi 'Helynt Efailwen. Ond yn ei hen ddyddiau roedd yn fawr ei barch fel aelod selog a defnyddiol yng Nghapel Bethel, Mynachlog ddu. Mae'n werth gweld y pennill coffa sydd ar ei fedd with ochor orllewinol y capel - pennill syn ychwanegu at y chwedloniaeth amdano ac sy'n tanlinellu ei ddigrifwch ei hun fel tynnwr coes. Er ei wylltineb cynnar credir fod ganddo yn ei ffordd urddas y mynydd a synnwyr dwfn o chwarae teg i'w gyd-ddyn. Sioe Carnabwth Sioe gymunedol yw Carnabwth', yn cael ei llwyfannu gan drigolion lleol arwydd o falchder yn eu tras. Yn dilyn y gwrthryfel lleol ymledodd Terfysg y Beca ar draws Gorllewin Cymruym 40aur 19ganrif. Trefnir y sioe gan Gymdeithas Clychau Clochog a derbyniwyd nawdd a chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Sir Penfro a PLANED.Os am archebu tocynnau neu am wybod mwy am y sioe cysylltwch 芒 Cyril Ridley (01437 532264) neu Rebeca Ashe (01437 532556).
|