Roedd y gystadleuaeth yn agored i blant ysgolion cynradd ar draws gorllewin Cymru ac yr oedd dros 80 o geisiadau wedi eu postio at y beirniad sef Fiona Phillips o GMTV. Wrth ddanfon ei phenderfyniad yn 么l at bwyllgor gwirfoddol yr 诺yl dywedodd Fiona "Yr oedd yn benderfyniad anodd gan fod yr holl geisiadau mor dda. Mi benderfynais ar un Hannah gan ei fod yn syml ac yn drawiadol gan bwysleisio hwyl y diwrnod."
Y wobr oedd tocyn teulu ar gyfer Parc Oakwood a noddwyd gan y cwmni. Yn y llun fe welwn Hannah yn derbyn y wobr gan bwyllgor yr 诺yl. Fe fydd cynllun Hannah nawr yn cael ei roi i fyfyrwyr Coleg Sir G芒r ar gyfer creu Crys T yr 诺yl yn Awst 2006.
Meddau Cadeirydd y Pwyllgor Bill Davies " yr oedd yn wych i weld cymaint o blant yn danfon eu gwaith i mewn i'r gystadleuaeth sydd nawr yn ei thrydedd flwyddyn. Mae'r 诺yl yn ddiwrnod arbennig i'r teulu a gyda'r maes plant yn 3 erw o faint ac yn cynnal Gweithdai Plant, digwyddiadau dawns a ardaloedd chwarae, mae yna wahoddiad pendant i deuluoedd i ddod i'r 诺yl ar y 5ed o Awst."
Mae Hannah yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Clydau sydd ond yn 3 milltir o safle'r 诺yl ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Am fwy o fanylion am yr 诺yl cofiwch ymweld 芒'r safle we - www.celticbluerock.org.uk
|