Bu'r misoedd diwethaf yn rhai prysur i'r clwb. Cynhaliwyd Noson Gwis Eglwyswrw, gyda'r clwb yn cystadlu yn erbyn CFFI Martletwy. Mr Stephen Phillips oedd wedi paratoi'r cwestiynau ac yn holi'r ddau d卯m.
Roedd y gystadleuaeth yn agos iawn gyda Martletwy yn fuddugol ac yn mynd ymlaen i'r rownd nesaf. Bu Eglwyswrw hefyd yn cymeryd rhan yn Eisteddfod CFFI Sir Benfro a gynhaliwyd yn Theatr y Gromlech. Buont yn fuddugol mewn sawl cystadleuaeth ac Eglwyswrw gipiodd y cwpan am y clwb 芒'r mwyaf o farciau yn yr adran gwaith cartref. Daethom yn gydradd cyntaf - hefyd am y clwb 芒'r marciau uchaf, gyda Llysfran yn rhannu'r wobr. Fe fu'r clwb yn llwyddiannus yn sawl cystadleuaeth ac roedd y rhain yn mynd ymlaen i Eisteddfod CFFI Cymru a gynhaliwyd yn Sir F么n.
Llongyfarchiadau i'r canlynol a fu yn llwyddiannus yn Sir F么n; Rhunedd George a ddaeth yn drydedd yn y gystadleuaeth adrodd dan 26, Sara Edwards a ddaeth yn drydydd yn y gystadleuaeth adrodd dan 26 oed, Sara Edwards a ddaeth yn drydydd am gyfansoddi c芒n i eiriau C芒n y Cadeirio, ac hefyd aelodau'r clwb a ddaeth a ddaeth yn drydydd yn y Cywaith Clwb.
Cynhaliwyd cystadlaethau siarad cyhoeddus ym mis Hydref a gwnaeth y clwb gystadlu mewn sawl gwahanol categori. Bu'r Aelodau o dan 14 oed yn fuddugol yn y gystadleuaeth Gymraeg, a daeth yr aelodau o dan 16 ac o dan 21 yn ail.
Ymunodd y Clwb gydag aelodau Eglwys St Cristiolus, Eglwyswrw i gynnal cyfarfod Diolchgarwch. Cymerwyd rhan gan sawl aelod o'r clwb a rhoddwyd y casgliad i 'Tearfund'. Yn ystod y misoedd diwethaf cynhaliwyd sawl Gyrfa Chwist a rhoddwyd yr arian a godwyd i elusennau lleol. Dros adeg y Nadolig cynhaliwyd noson Fingo a bu'r aelodau hefyd allan yn canu carolau, gan godi 拢350 i Tenovus.
Cynhaliwyd sawl cyfarfod diddorol hefyd. Daeth yr aelodau ynghyd i ddathlu'r calan gaeaf ym mis Tachwedd ac yn ystod mis Rhagfyr cynhaliwyd noswaith chwaraeon yng Nghanolfan Chwaraeon Crymych, a noswaith addurno boncyff Nadolig. Bu aelodau hynaf y Clwb hefyd yn mwynhau noswaith o ddawnsio a chymdeithasu yn Dawns Frenhines Sir Benfro, a gynhaliwyd yn Ninbych y Pysgod.
Bydd yr aelodau yn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth bantomeim a chynhelir ym mis Mawrth, dros yr wythnosau nesaf. Mae'r clwb yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 50 oed eleni. Gwhoddir cyn aelodau a ffrindiau i ymuno yn y dathliadau fydd yn cael eu cynnal eleni.
|