Dyna'r profiad anhygoel a gafodd un wraig o Faenclochog yn ddiweddar, wedi iddi gael ei henwebu am wobr yn un o seremon茂au pwysicaf y diwydiant siopau bach ym Mhrydain. Cafodd Morwen Williams ei henwebu am ei gwaith yn Siop Sarah ym Maenclochog, felly, bant 芒 hithau a pherchennog y siop, Sarah Eynon i Llundain ar gyfer y noson wobrwyo. Roedd hi'n ddechrau mis Hydref, a gwesty pum seren y Renaissance Chancery Court oedd y lleoliad ar gyfer gwobrwyon blynyddol y cylchgrawn Convenience Store. Mae'r noson hon yn uchafbwynt blwyddyn o waith caled i nifer o berchnogion siopau ar draws Prydain, ac adlewyrchwyd hynny yn y nifer fawr o bobol oedd yn bresennol yno.
Roedd pobol o bob cwr wedi eu henwebu am wobr - o Belffast, Cernyw ... a Maenclochog wrth gwrs! Wedi ei henwebu am Wraig Siop y Flwyddyn yng nghategori siopau'r sector annibynnol oedd Morwen, a hi oedd yr unig un o Gymru gyfan i ennill lle yn y categori hwn. Beth bynnag y canlyniad felly, roedd Morwen eisoes wedi ei choroni 芒'r teitl answyddogol Gwraig Siop Orau Cymru.'
Sarah, perchennog y siop oedd wedi cyflwyno enw Morwen i'r pair, a hynny oherwydd yr holl waith arbennig a wnaeth yn y cyfnod pan roedd Sarah i ffwrdd. Wedi iddyn nhw dderbyn yr enwebiadau, daeth "cwsmer cudd" i Faenclochog ar ran y cylchgrawn i Morwen wrth ei gwaith dros ei hun. Maen amlwg iddo gael ei blesio gan waith Morwen, felly cafodd wahoddiad i fynd i Lundain, yn un o bump yn unig oedd wedi cyrraedd y brig yn y dosbarth hwn.
"Wedd e'n gwmws fel mae'r seremon茂au mowr' ma ar y teledu" meddai Morwen o'r seremoni crand yn Llundain. "Wedd pob un yn eistedd ar eu fordydd a chafodd pob un ymhob categori eu galw lan i'r llwyfan."
Wrth gyrraedd y llwyfan, gyda llun mawr ohoni ar y sgrin enfawr yn y cefndir, cyflwynwyd Morwen i'r dorf gan neb llai na'r llais tu 么l i'r Loteri Cenedlaethol, Alan Dedicoat.
"Na, don i ddim mor nerfus 芒 hynny," meddai Morwen am ei phrofiad. "Wen i'n nerfus wrth ddisgwyl mynd mewn i gael cyfweliad y bore 'ny, ond wen i'n iawn."
Do, bu'n rhaid i Morwen wneud tipyn o waith ar fore'r seremoni, yn cael ei chyfweld gan banel oedd yn holi am ei ffordd o ddelio gyda chwsmeriaid yn y siop, a hefyd am gynnyrch noddwyr y gwobrwyon fel Coca Cola, Wrigleys a Mars.
Er na enillodd Morwen y prif deitl, fe adawodd Llundain gyda llond sach o gynnyrch noddwyr y gystadleuaeth, a llond c么l o atgofion arbennig.
"Wedd e werth mynd, yn bendant," meddai. "Wedd popeth mor arbennig, a wedd e'n agoriad llygad hefyd i weld shwt ma'r hanner arall yn byw ... a ni'n dwy o Maenclochog yn eu canol nhw!"
Llongyfarchiadau mawr i Morwen ar ei champ ac am yr anrhydedd o fod ymhlith y 5 gorau trwy Brydain gyfan am weini cwsmeriaid - a'r gorau yng Nghymru gyfan. Pwy a 诺yr ... efallai y bydd Morwen ar ei ffordd 么l i Lundain i seremoni arall y flwyddyn nesaf eto. Byddai wrth ei bodd yn mynd dw i'n si诺r!
Aled Vaughan,
Prosiect Papurau Bro