Mae Mari Grug yn wreiddiol o Faenclochog. Mae'n wyneb cyfarwydd ar S4C ac yn aelod o d卯m cyflwyno Y Tywydd. Dros yr haf bydd hi'n ymweld 芒 gwyliau ledled Cymru fel rhan o'r gyfres Digwyddiadau 09. Sgr卯n Bro fu'n ei holi.
Oeddet ti'n blentyn da neu ddrwg yn yr ysgol?
Yn blentyn da ar y cyfan! Ond roeddwn i'n cael fy atgoffa'n aml 'mod i'n siarad gormod yn y dosbarth. Ro'n i hefyd yn bach o rebel gyda'r wisg ysgol - sodle rhy uchel, sgert bach yn fyr a lliw yn y gwallt. Un haf wy'n cofio rhoi lliw 'sun-in' yn fy ngwallt. Roedd hyn yn groes i reolau'r ysgol, ac ar 么l y gwasanaeth fore Llun bu'n rhaid i bawb o'dd wedi torri'r rheol fynd i weld y Prifathro - sef fi a chriw o fechgyn o'dd wedi rhoi 'bleach' yn eu gwallte'. Roedd yn rhaid i'r bechgyn dorri'r lliw mas erbyn y diwrnod canlynol, ond o'n i'n methu, ac felly bu'n rhaid i Mam druan ffonio'r Prifathro i gael caniat芒d i fi ddychwelyd i'r ysgol. Diolch byth, wnaeth Mr Lloyd adael fi n么l, a wnes i ddim rhoi lliw yn fy ngwallt tan bo fi'n gadael yr ysgol. Wel, bron a bod!
Pwy fu'r dylanwad mwya' arnat ti o fewn dy filltir sgw芒r?
Mae sawl person wedi bod yn ddylanwad arna' i - fy rhieni, athrawon ysgol, athrawon canu a drama. Ond un wnaeth blannu'r hedyn berfformio yndda' i oedd y ddiweddar Tanwen Adams. Roedd hi'n byw drws nesa, yn athrawes ysgol Sul a hefyd yn dysgu i mi ganu. Gyda hi ges i lwyfan yn yr Unawd Cerdd Dant pan yn 4 mlwydd oed ac o'n i'n gwybod bryd 'ny 'mod i wrth fy modd yn perfformio.
Beth yw dy hoff atgof o'th filltir sgw芒r?
Mae'n rhy anodd i ddewis un yn unig, felly dyma rai o'r uchafbwyntiau:
- Chwarae'r prif gymeriadau ym mhasiant y plant Eisteddfod Bro'r Preseli '95 a Sioe Magdalen gydag Ysgol y Preseli yn '99.
- Perfformio gyda Ch么r Newyddion Da yn yr Albert Hall a chymryd rhan yn Sioe Theatr Bro'r Preseli, Dal dy Dir.
- Mynd i Draeth Mawr yn Nhrefdraeth ar 么l dod n么l o'r ysgol Sul.
- Mynd i grynhoi defaid i Dal Mynydd adeg cneifio.
Beth yw'r profiad gwaith gorau a gwaethaf i ti gael? Wy'n credu bod y profiad gwaith gore a'r gwaetha wedi bod yn yr un lle, sef Caffi Beca, Efailwen. Wythnos ar 么l dechrau gweithio yno, wnes i ollwng tebot o ddwr twym ar fwrdd a bron iddo sarnu ar blentyn bach! Bues i'n lwcus i gadw'n swydd fel gweinyddes yno am saith mlynedd a hyd yn oed cael tip gan deulu'r plentyn. O'n i wrth fy modd yn gweithio yno, yn cael cydweithio 芒 chymeriadau lliwgar yr ardal ond hefyd yn delio gydag ambell gwsmer lletchwith ar hyd y ffordd - mae'r cyfan hyn wedi bod o fudd mawr i mi.
Pa ddiddordebau sy' gen ti?
Wy wrth fy modd yn mynd allan am fwyd ac yn mwynhau unrhyw beth sy'n ymwneud 芒 cherddoriaeth. Wy'n aelod o G么rdydd, sy'n paratoi ar hyn o bryd ar gyfer Eisteddfod Llangollen. Wy'n mwynhau mynd i gyngherddau, i wyliau cerddorol neu jyst yn canu'r piano.
Lle fyddet ti'n treulio dy wyliau delfrydol?
Swn i'n dwli mynd i Seland Newydd. Wy erioed wedi bod ond ma' lot yn gweud bod hi'n debyg iawn i Gymru, golygfeydd godidog a bydden i'n gallu mwynhau'r m么r a'r mynydd. Bydden i'n hurio camperfan ac yn treulio cyfnod yn teithio yn y ddwy ynys cyn gorffen y daith mewn gwesty pum seren.
Wyt ti'n barod ar gyfer y newid i ddigidol?
Ydw, mae'r ddau deledu yn y ty yn rhai digidol.