Roedd dydd Mercher olaf Awst eleni yn ddiwrnod hanesyddol yn hanes cartref Glyn Nest pan ddaeth tyrfa luosog ynghyd i'r seremoni i agor yr estynlad newydd wedi bron i 18 mis o waith adeiladu i helaethu'r cartref. Mae pymtheg mlynedd ers estynnwyd y cartref o'r blaen yn 1991. Yn dilyn oedfa a chyfarchion fe agorwyd yn swyddogol yr estyniad newydd gydag aelod hynaf y cartref, sef Eirwen Lewis, sydd yn 98 mlwydd oed, yn torri'r rhuban gyda Jayne Evans, y rheolwraig. Yna'n dilyn fe gynhaliwyd yn 么l ein harfer y dydd agored. Y wraig wadd eleni i agor y dydd oedd Lydia Williams, Llanelli. Bu ei mam, y ddiweddar Pheobe Edwards, Llandysul, yn dra ffyddlon a gweithgar i'r dydd agored am flynyddoedd maith ynghyd 芒'r holl weithgareddau'n ymwneud 芒'r cartref. Dymunir diolch i Wyn Harries, y pensaer a John Davies, yr adeiladydd am y gwaith graenus a'r cydweithrediad yn ystod tymor yr adeiladu ac i Jayne Evans, y rheolwraig a staff y cartref am wenu'n siriol gydol y cyfnod. Rhaid diolch hefyd i holl aelodau'r pwyllgorau am eu cefnogaeth cyson ac i garedigion ledled Cymru am eu haelioni.
|