Bydd rhwydwaith y mentrau iaith yn ehangu tu hwnt i diroedd Cymru er mwyn cryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn y Wladfa. Mae nifer o fudiadau wedi dod at ei gilydd i wireddu'r cynllun sydd yn cynnwys Mentrau laith Cymru, yr Urdd, Cymdeithas Cymru Ariannin, Y Cyngor Prydeinig. Mae nawdd hefyd wedi ei ddenu gan gwmni preifat, sef Nos Da, Caerdydd.
Mae'r cynllun wedi penodi Dyfed Sion - swyddog Datblygu yr Urdd yn Sir Benfro fel aelod staff i fynd i weithio yn y Wladfa i ddatblygu'r fenter. Soniodd Dyfed: "Ar 么l ymgeisio mi dderbyniais y swydd gyda Mentrau Iaith Cymru cyn y Nadolig. Mi fyddaf ym mis Ebrill 2008 yn teithio i ardal y Gaiman ym Mhatagonia i fod yn Swyddog Maes i Fenter Iaith Patagonia, a fy swyddogaeth bydd sefydlu'r fenter newydd sbon yma. Mae'r swydd am gyfnod o ddeg mis."
Ychwanegodd Dyfed: "Teimlaf fod hwn yn gyfle rhy dda i golli, mae'n fenter gyffrous ac mae yna gyfle i mi adael fy marc yn rhywle tra mod i ar y ddaear yma."
Yn dilyn adroddiad Robert Owen Jones (Prifysgol Caerdydd) ar raglen dysgu Cymraeg y Wladfa, mae angen cynyddu'r ddarpariaeth yn ogystal 芒 chynnig cyfleoedd cymdeithasol i ddefnyddio'r Gymraeg yno. Heb wneud hynny, ni fydd modd o sicrhau bod dysgwyr yn dod yn rhugl eu Cymraeg, nac o gynnal Cymraeg y rhai sydd yn ei arddel o hyd. Ond fe fydd y rhaglen yn un ehangach na Menter laith arferol gan hyrwyddo cynllun cyfnewid rhwng y ddwy wlad.
Prif amcanion y cynllun fydd:
Cyfleoedd i gymdeithasu trwy'r Gymraeg. I ddatblygiad y rhai sy'n dysgu Cymraeg a'r rhai sy'n parhau i'w harddel. Heb ddigwyddiadau o'r math nid oes gan y Gymraeg ddyfodol fel iaith fyw.
Cyfleoedd i unigolion astudio a gweithio yng Nghymru.
Gall hyn roi cyfleoedd i unigolion ddod yn rhugl yn y Gymraeg a ei harfer i defnyddio'n feunyddiol. Bydd hefyd yn creu mwy o ddiddordeb yn y Gymraeg yn y Wladfa, os oes cyfleoedd i ddod i Gymru. Mae sawl busnes sy'n awyddus i gyflogi siaradwyr Cymraeg ond sy'n cael trafferth cael hyd iddyn nhw. Mae rhestr o sefydliadau eisoes ar gael.
Cyfleoedd i unigolion o Gymru wneud gwaith gwirfoddol yn y Wladfa gyda'r Cynllun Dysgu Cymraeg a chyda'r Fenter Iaith arfaethedig.
Fe fydd yn bwysig cynnig cyfleoedd i bobl o Gymru wneud gwaith gwirfoddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn clymu i mewn gyda strategaeth y Cynulliad i ddarparu mwy o gyfleoedd i'r ifanc cael defnyddio'r Gymraeg.
Tra fod lawer o waith da wedi ei wneud eisoes yn y Wladfa, heb y cynllun dysgu Cymraeg presennol a gwaith unigolion o Gymdeithas Cymru Ariannin, mae'n debyg y buasai cyflwr y Gymraeg yn y Wladfa wedi dirywio y tu hwnt i achubiaeth. Felly, gwireddu'r cynllun yma ydi'r cam naturiol nesaf yn y broses o ddiogelu'r Gymraeg fel iaith fyw y tu hwnt i lannau Cymru.
Mae'n gynllun sydd yn ceisio cyfuno nifer o gynlluniau yn y Wladfa er mwyn creu continuwm iaith fydd yn creu siaradwyr Cymraeg newydd a chyfleoedd go iawn i ddefnyddio'r Gymraeg. Y gobaith fydd bod y Gymraeg yn dod yn ased economaidd i'r ardal a'i phobl. Bydd hefyd yn cryfhau sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru wrth gynnig cyfleoedd cyffrous i siaradwyr Cymraeg wneud gwaith gwirfoddol trwy'r Gymraeg tu hwnt i Gymru.
Wrth gloi soniodd Dyfed: "Mae'r Urdd wedi rhoi s锚l bendith ar fy nghais i gymryd cyfnod i ffwrdd o'r gwaith heb d芒l. Rwyf yn ddiolchgar iawn iddynt am y cyfle yma ac rwyf wedi eu sicrhau, fel yr wyf yn gwneud i chi nawr, y byddaf yn bendant yn dod yn 么l i ail-ymgymryd a'm dyletswyddau fel Swyddog Datblygu yr Urdd yn Sir Benfro yn ystod Chwefror 2009. Bydd yr Urdd yn awr yn edrych ar y posibiliad o hysbysebu fy swydd bresennol ar gontract blwyddyn gan obeithio cael rhywun mewn lle ar gyfer mis Mawrth er mwyn cael cyfnod pontio dros yr Eisteddfodau. Mae'r holl ddigwyddiadau sydd eisoes yn y dyddiadur ar gyfer Ebrill ymlaen wedi eu trefnu".
Dymuna Papur Bro Clebran bob llwyddiant i Dyfed ac i'r fenter newydd yn y Wladfa gan obeithio y caiff Dyfed gyfle i ddanfon ambell adroddiad o'r gwaith cyffrous yn 么l i fro'r Preseli.