Ar nos Sul, Ebrill 27 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd cefais brofiad anrhydeddus. Nid yn unig fy mod wedi cael fy ngwahodd i noson wobrwyo BAFTA Cymru, ond fe f没m yn ddigon ffodus i ennill y tlws am yr actor gorau' am fy mhortread o'r cymeriad 'Balders' yn y gyfres 'Cowbois ac Injans'. Yn eironig iawn, yn yr olygfa gyntaf o'r gyfres gyntaf gwelir Balders yn annerch cynulleidfa fawr ar 么l derbyn gwobr am ei ddawn ysgrifennu creadigol. Breuddwyd oedd hyn i Balders, a dyna'n union sut oeddwn i'n teimlo ar y noson yna ym mis Ebrill.
Mae mynychu'r math yma o nosweithiau yn brofiad hollol estron i mi er fy mod wedi bod wrth fy ngwaith fel actor ers deunaw mlynedd. Roedd clywed fy enw'n cael ei ddarllen mas o'r amlen aur yn teimlo'n union fel breuddwyd nes i mi sylweddoli bod rhaid i mi godi o 'nghadair, cerdded lawr y llwybr a lan i'r llwyfan ac wedyn ceisio yngan ychydig o eiriau pwrpasol o flaen cannoedd o bobl oedd yn llechu yn nhywyllwch yr eisteddle. Nid wyf yn cofio'n gywir beth 'wedais i hyd y diwrnod yma. Roedd fy mol yn troi, fy nwylo'n crynu a'm ceg yn sych. Bron i'r tlws lithro o'm gafael wrth i mi ei dderbyn - mae'n llawer trymach na'r disgwyl!
O ddram芒u byrion a chynyrchiadau hirfaith yn yr ysgol gynradd, yr aelwyd, ac Ysgol y Preseli yng Nghrymych, trwy flynyddoedd y brifysgol yn Aberystwyth, mewn amryw i gyflwyniad theatr, teledu a radio - yn rhinwedd fy swydd yr wyf wedi derbyn cefnogaeth frwd, cyfarwyddyd manwl a llu o gyfleoedd i gyd-greu, cyd-weithio a chyd-chwarae. Byddwn i ddim wedi cyrraedd y sefyllfa yma heb y sail yna a heb y siawns y cefais gan gwmni Opus i lenwi croen 'Balders'. Mae fy nyled i'r cynhyrchwyr, yr awduron, y cast a'r criw yn enfawr. Er i mi gael fy syfrdanu fy mod wedi ennill, mae'n fraint ac yn anrhydedd gallu dweud fy mod yn enillydd BAFTA Cymru. Ni allaf feddwl am ffordd well i ddod a 12 mis cyffrous, hapus a thymhestlog ar brydiau, i ben.
'Rwyf bellach yn ol yn byw yn fy milltir sgw芒r ar ol blynyddoedd o fod ledled Cymru, ac yn falch lawn o fod wedi ymgartrefu gyda fy nheulu yn Efailwen. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch o waelod calon am y gefnogaeth, y cyfeillgarwch a'r croeso yr ydw i a'm gwraig wedi derbyn dros y blynyddoedd, ond yn enwedig yn y
misoedd diwethaf ers genedigaeth Llew. Rydym yn eithriadol o ffodus o gaed teulu, ffrindiau a chymdogion mor gefnogol a chariadus. Diolch i chi oll ... mae'n braf hod getre!
|