Bu camer芒u teledu yn brysur yn cofnodi Gwyl Fai sef Dydd y Gweithwyr ledled y byd a phawb ohonom yn ymfalch茂o bod gorthrwm y Meistr Tir wedi cilio o Gymru hefyd.
Fore trannoeth, daeth y camer芒u i Bontseli i wylio dros 50 o ieuenctid a ddaeth yno'n wirfoddol i ddechrau adfer hen ogoniant Gardd Clynfywban gan hau hadau newydd yn yr hen bridd i godi cnydau organig i'w gwerthu'n lleol. Bwyd iach y dyddiau cyfoes o hen ardd a esgeuluswyd. Dim diddordeb yn yr adfail Wrth i Hefin Parri Roberts a mi fynd gyda nhw ar ran Clebran,nid oedd gan yr un ohonyn nhw y diddordeb lleiaf yn yr adfail islaw'r ardd ond ni allem ni fynd heibio!
Yma, ddiwedd y ddeunawfed ganrif deuai Bedyddwyr Pontseli ac Abercuch i gartref Sion Huws gan orlifo o'r bwthyn bach i'r buarth o flaen y ty i foli a dyblu'r g芒n cyn troi am adre wedi oedfaon gwlithog.
Erbyn hynny, yr oedd Cilfowyr yn eglwys lewyrchus a niferus a'i gweinidogion yn sefydlu canghennau. Ymhlith y canghennau hynny yr oedd Cwmplyf a hwy a ofalai am y ddiadell hon yn y cwm cudd, gyda help Griffith Jones, Gweinidog Rehoboth ym mhen ucha'r cwm, gan ei fod yn byw yn fferm Waun uchaf led cae i ffwrdd.
Ym 1826 codwyd y capel cyntaf yn Ramoth a daeth pennod Cwmplyf i ben ond daliwyd i hau had y Gair hyd heddiw, er gwaethaf holl esgeulustod yr oes. Mae angen bwyd iach organig ac ysbrydol heddiw fel erioed ac yn y rhifyn nesaf cawn hanes pennod newydd Cilfowyr a Ramoth.
Llafurio gydol oes Aethom ninnau ein dau ymlaen i'r ardd lle bu llawer o werin Ramoth yn llafurio gydol oes yng nghysgod Plas y Clynfyw. Y mae'r 'sgweiar' presennol, James Lewis Bowen yn troi y stablau'n unedau i'r anabl ac yn awr yn rhoi yr ardd eang ar l锚s am chwarter canrif i'r gymuned i dyfu llysiau a ffrwythau yn y pridd toreithiog ar y llethr heulog o fewn y muriau cerrig cynnes.
Yr oedd y bore hwn o Fai yng nghwm Clynfyw dan haul braf ar lethr yn wynebu'r de fel bod ar lethrau Galilea yn nyddiau'r Iesu.
Y "llafurwyr" oedd myfyrwyr Coleg Amaeth Pibwrlwyd, aelodau'r ATS, Grwp Therapi a gwirfoddolwyr lleol gyda Robert Taylor yn cydlynu'r fenter. Daeth nawdd o bob cyfeiriad, y Cyngor Sir, PAVS a'r planhigion yn rhodd gan Gerddi Dolau Hirion Llandeilo.
Cynnyrch cwbwl organig Dim ond dechrau yw hyn a bydd y gwaith yn mynd ymlaen o wythnos i wythnos ac o dymor i dymor a'r cynnyrch cwbwl organig ar werth yn lleol cyn diwedd yr haf.
Erbyn hynny, bydd y fenter wedi ei chofrestru'n Elusen ac yn gobeithio cael rhoddion y Loteri ac Amcan Un.
Bu'r cynllun ar y gweill ers sawl blwyddyn ond daeth y Clwy' i atal y fenter y llynedd. Erbyn i'r rhaglen gyrraedd sgr卯n 成人论坛2, mae'n siwr y bydd y Cyfryngau eraill yn dod 芒'r hanes i ni, ond roedd yn dda cael bod yno ar ran Clebran ar y cychwyn.
Erthygl gan Dafydd Henri Edwards a Hefin Parry-Roberts
|