Roedd hwn yn gyfle i grefftwyr a chynhyrchwyr i ddod 芒'u nwyddau i'w gwerthu ac yn gyfle, yn ogystal, i bobl ffermydd ardal y Preselau i ddod i Grymych - y gw欧r i brynu ac i werthu yn y mart a'r gwragedd i ymweld 芒'r farchnad yn ogystal 芒 siopau'r pentref.
Roedd hwn yn ddiwrnod prysur i bawb a'r awyrgylch yn y pentref yn rhywbeth gwahanol i'r arfer. Ac yna ar y dydd Mawrth olaf yn Awst roedd yr awyrgylch yn arbennig iawn gan ei bod yn ddiwrnod ffair Crymych yn ogystal - pinacl y flwyddyn a channoedd o bobl ardal gyfan yn tyrru i'r pentref yn ystod y dydd a than hanner y nos.
Mae ffair Awst wedi dal yn boblogaidd ond gyda threigl y blynyddoedd a gweld agor archfarchnadoedd ac ati edwino wnaeth y stondinau yn Neuadd y Farchnad.
Er mwyn ceisio ail gynnau'r bwrlwm a fu daeth y syniad oddi wrth Bwyllgor Mileniwm Crymych - gyda throad y ganrif- mai da o beth fyddai mynd ati i drefnu Ffair Fwyd yn Neuadd y Farchnad ar ddiwrnod y ffair. Ac felly wedi tipyn o drafod a phwyllgora a gyda chymorth ymarferol PLANED ac Awdurdod Datblygu Cymru cynhaliwyd y Ffair Fwyd gyntaf yn 2002.
Roedd yr ymateb gan werthwyr a phrynwyr yn galonogol dros ben. Cefnogwyd y Ffair gan siopwyr bwydydd y pentref a chynhyrchwyr o siroedd Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin, cyfanswm o 20 stondin gyda phrynwyr o bell ac agos yn troi i mewn i'r neuadd ac wrth eu bodd i gael y cyfle i flasu a phrynu cynnyrch cartref unwaith yn rhagor.
Y neuadd o dan ei sang a chyfle, yn ogystal, i eistedd i fwynhau arddangosiadau coginio gan gogyddion o fri. Wedi diwrnod llawn bwrlwm, calondid i'r trefnwyr oedd ymateb ffafriol y stondinwyr oedd yn awyddus i gael cadw eu lle ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
Yr un fu'r hanes o flwyddyn i flwyddyn ac erbyn Awst 2005 (y pedwerydd Ffair Fwyd) mae'r gefnogaeth wedi parhau a'r stondinwyr wedi dychwelyd bron yn ddi-eithriad bob tro. Yn 2003 ychwanegwyd Ffair Grefftau lwyddiannus a chyfle i grefftwyr lleol i arddangos eu gwaith mewn pabell ym Maes Ploveilh yn ogystal 芒 llwyfan ar gyfer cerddorion o Gymru a thramor. (Pwy all anghofio'r wefr o weld a chlywed band pibau a drymiau Quimper yn ymdeithio trwy'r pentref yn ystod G 诺yl 2003?)
Mae'r crefftwyr a'r stondinwyr yn dal i ddangos diddordeb yng Ng诺yl Fwyd a Chrefft y Frenni - cyfanswm o 55 o fyrddau yn Awst 2005 a nifer ychwanegol ar y rhestr aros. Rhaid diolch i'r gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi cymorth ymarferol i baratoi'r neuadd a'r babell ymlaen llaw a diolch i chi, y cyhoedd am eich cefnogaeth.
Wrth i'r 糯yl ddatblygu mae'n naturiol bod gwaith y trefnwyr yn cynyddu ac mae angen mwy o ddwylo - yn enwedig ar ddiwrnod y Ffair - os yw'r 糯yl i barhau. Bydd croeso mawr i chi yn ein cyfarfod nesaf ar Chwefror 6ed am 6.00 o'r gloch yng Nghlwb Rygbi Crymych.
Blwyddyn Newydd Dda!
Rhian James Davies
|