Mae nos Lun yn fishi yn ein t欧 ni. Wedi i fi ddod adref o'r ysgol, bob yn ail wythnos mae Dad, gan amlaf (gan fod Mam naill ai wrthi yn ysgrifennu neu yn astudio) yn mynd a fi lan i'r Ganolfan Hamdden yng Nghrymych i chwarae boccia gyda'm ffrindiau, Dewi, Jacob a Christopher.
Ar 么l swper fe fydd peth amser ar gael i mi roi peth ymarfer i mewn ar y piano, cyn i Elin Owen, fy athrawes piano, ddod er mwyn i ni fynd dros y gwaith yr oedd wedi paratoi i mi wthnos dwetha. Erbyn hyn yr wyf yn medru chwarae dros 50 o wahanol donau amrywiol yn cynnwys caneuon gwerin, emynau, caneuon pop, a darnau gan Scott Joplin, Sibelius, ac wrth gwrs fy ffefryn Dafydd Iwan.
Er fy mod i wedi fy ngeni 芒 beth mae'r arbenigwyr yn disgrifio fel anghenion addysgol arbennig, yr wyf yn barod am sialens ac yr wyf yn medru gwneud llawer o bethau pwysig mewn bywyd. I brofi hyn, yr wyf am fynd ati i gynhyrchu CD o mi yn chwarae'r piano er mwyn codi arian i ddau achos da.
Pan oeddwn yn fach fe gafodd Mam a Dad dipyn o gymorth oddi wrth Gymdeithas Syndrom Down. Ma'r mudiad wedd Dad yn arfer bod yn ysgrifennydd arno yn lleol am rai blynydde, yn trefnu cyfarfodydd, gweithgareddau a chynadleddau er mwyn cynghori rhieni ar sut i roi y cyfle gorau i'w plant sydd angen ychydig mwy o gymorth efallai na phlant eraill.
Yr ydym ni fel teulu wedi treulio blynyddoedd bellach yn gwirfoddoli mewn un ffordd neu'i gilydd gyda mudiad Cymorth Cristnogol, naill ai trwy fod ar eu stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol neu trwy fod yn gysylltiedig 芒 'r cylch yn lleol. Yr oedd, felly, yn rhwydd i mi benderfynu pa ddwy elusen yr oeddwn am gefnogi gyda'r elw a ddaw o'm CD.
Gobeithiaf y medraf gael digon o noddwyr i helpu fi i ga'l digon o arian i dalu am gynhyrchu CD safonol erbyn yr haf a chyn y byddaf yn ymuno 芒'm ffrind, Siwan, yng Ngholeg Y Dderwen, ger Croesoswallt, ym mis Medi.
Bu Mam a Dad yn helpu fi i ysgrifennu hwn.
|