成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clebran
Y cyfrifiad Y Gymraeg ar i fyny
Mawrth 2003
Ar 么l hir ddisgwyl, mae canlyniadau cyfrifiad 2001 a'r iaith Gymraeg wedi cael eu rhyddhau a'r newyddion digamsyniol yw bod yr iaith Gymraeg ar i fyny.
Bellach, mae dros 575,640 o bobl yng Nghymru, neu 20.5% o'r boblogaeth, yn medru'r iaith. Gyda rhagor na 65,000 mwy o bobl yn ei siarad nag ym 1991, dyma'r cynnydd mwyaf ers 1911. Nid yw'r Gymraeg wedi bod mor gryf, o ran niferoedd a chefnogaeth, ers degawdau.

Mae'n anodd tynnu cymhariaeth rhwng y cyfrifiad diwethaf ym 1991 a chyfrifiad 2001 gan fod ffiniau'r cynghorau sir wedi newid ac nid oes gwybodaeth fanwl ar gael hyd yn hyn. Serch hynny, mae'n bosibl dweud bod y cynnydd mewn rhai llefydd yn y wlad wedi bod yn syfrdanol. Yng Nghaerdydd, er enghraifft, mae'r nifer o Gymry Cymraeg wedi dyblu bron ac mae mwy o Gymry yn byw yn y brifddinas bellach (sef rhyw 32,000 o bobl) nag sy'n byw yn Sir Benfro (sef 23,686 o bobl).

Dywedodd cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Rhodri Williams, bod "y cynnydd yma yn gam pwysig ymlaen i'r Gymraeg" a bod y cyhoeddiad "yn newyddion calonogol i'r Gymraeg". Mae'r arbenigwr ieithyddol ar Gymru, yr Athro Harold Carter, gynt o Brifysgol Cymru Aberystwyth, wedi ategu'r sylwadau hyn gan ddweud bod y newyddion i'w groesawu. "Dw i'n llawenhau yn y cynnydd hwn, ond bydd rhaid aros am ragor o fanylion cyn tynnu casgliadau", meddai.

Darlun cymysg y gorllewin
Yma yn y gorllewin, fodd bynnag, mae darlun cymysg. Yn Sir Benfro mae'r nifer o Gymry wedi codi bron 4,000 i gynrychioli 22% o'r boblogaeth, tra yng Ngheredigion mae'r niferoedd wedi codi rhyw 1,700 ond wedi gostwng fel canran. Effaith, mae'n siwr, o'r mewnfudo mawr i'r sir dros y blynyddoedd diwethaf a'r ffaith bod y cyfrifiad bellach yn cyfrif myfyrwyr yn Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan wrth eu prifysgolion yn hytrach nag o ble maent yn dod.

Yn anffodus, mae ffigurau Sir Gaerfyrddin wedi dangos peth siom i gefnogwyr yr iaith gan fod y nifer o Gymry wedi disgyn rhyw 5,000 a'r canran hefyd wedi disgyn fel bod 50% yn unig o frodorion Sir G芒r yn cyfrif eu hunain yn Gymry.

Nifer o siaradwyr y Gymraeg :
Sir Benfro 23,686
Ceredigion 37,772
Sir Gaerfyrddin 83,802
Cymru 575,640

Nifer o siaradwyr Cymraeg fel canran o'r boblogaeth :
Sir Benfro 22%
Ceredigion 52%
Sir Gaerfyrddin 50%
Cymru 20.5%

Bydd rhaid aros nawr tan ganol y flwyddyn cyn inni wybod am ganlyniadau manwl y cyfrifiad. Bydd hyn wedyn yn dangos ble yn lleol y mae'r Gymraeg wedi gwanychu a ble y mae'r Gymraeg wedi cryfhau. Ond yn 么l y s么n, mae'n debygol y bydd y niferoedd a'r canran yn codi eto wrth i fwy o fanylion ddod i'r fei.

Ceri Jones.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy