Derbyniodd pob disgybl basbort i fynychu'r wythnos, ac ychwanegwyd stamp newydd pob diwrnod i gynrychioli'r gwledydd gwahanol.
Cafwyd hwyl ar y dydd Llun wrth i'r plant gael eu cyfarch gyda neuadd yn llawn o wrthrychau Ffrengig. Yn y cefndir roedd cerddoriaeth 'cafe' yn chwarae'n dawel ac arogl croissants cynnes yn llenwi'r aer. Ar 么l gwers Ffrangeg a chanu nifer o ganeuon syml, cynyddwyd ymwybyddiaeth y plant yn fawr iawn.
Ray Gravell oedd yno i gwrdd 芒'r plant ar y dydd Mawrth. Roedd wrthi'n cyflwyno'i raglen frecwast ar Radio Cymru, tra roedd y selsig Gwyddelig yn coginio. Daeth tad un o blant yr ysgol (Gwyddel yn wreiddiol) i siarad 芒'r plant. Bu llawer o holi prysur am fara soda ac am gacennau tatws. Ar 么l y brecwast aeth y plant i sgwrsio 芒 phlant Iwerddon trwy ddefnyddio system `First Class'. Trefnwyd y sgwrs yn dilyn ymweliad gan aelodau o staff yr ysgol 芒'r Iwerddon er mwyn creu cysylltiadau gydag ysgol yn Nulyn. Bu llawer o chwerthin wrth i blant Carwe holi'r plant am eu gwlad ac ateb cwestiynau ar Gymru.
Gwelwyd baneri'r Almaen yn hedfan ar y dydd Mercher wrth i'r plant gael cyfle i flasu brecwast traddodiadol Almaenig. Cig wedi'i sychu, bara a jam oedd ar y fwydlen. Daeth Haika Griffiths (Almaenes leol) i siarad 芒'r plant am fwyd, pobl ac ysgolion yr Almaen.
Gorffennwyd yr wythnos ar y dydd Iau gyda (yn 么l rhai o'r plant) brecwast gorau'r wythnos - brechdan bacwn i gynrychioli Denmarc. Cafodd y plant hwyl a sbri wrth greu modeli allan o Lego. Efelychwyd gweithgaredd `First Class' ddydd Mawrth hefyd ond gyda phlant Denmarc y tro hwn. Eglurodd disgyblion Ysgol Carwe i blant Denmarc eu bod yn hoff iawn o frechdanau bacwn a chytunodd y Daniaid.
Ar 么l wythnos lwyddiannus, roedd dealltwriaeth y plant wedi ei ddatblygu, ac roedd llawer o ddisgyblion yn holi pryd oedd yr wythnos nesaf o'i thebyg. Profodd rhai o'r plant fwyd nad oeddynt erioed wedi ei flasu (ac yn 么l rhai - ar 么l blasu'r cig wedi'i sychu, byth eisiau ei flasu `to!)
Creodd plant yr ysgol gysylltiadau 芒 phlant Iwerddon a phlant Denmarc, ac maent yn edrych 'mlaen i gynnal 'sgwrs' eto yn fuan. Mae cardiau Nadolig oddi wrth y plant yn gweithio'u ffordd i'r Iwerddon ac i Ddenmarc, ac mae'n wir i ddweud mai nid dim ond y parsel gwreiddiol fydd yn cael ei basio o hyn ymlaen, ond digonedd o lythyron, gwaith, dymuniadau, a phrofiadau gwerthfawr.
|