Cafwyd diwrnod o gystadlu brwd a hwyliog rhwng y pedwar llys. Eleni Llys Darog oedd yn fuddugol o dan arweiniad y ddau gapten Rebecca Evans a Dafydd Llyr Thomas. Yn wir, rhaid llongyfarch holl fyfyrwyr blwyddyn 12 am eu hymroddiad wrth baratoi'r disgyblion ar gyfer y cystadlaethau. Mor ymroddedig oedd ambell fyfyriwr blwyddyn 12 nes i un ferch oedd yn dysgu parti dawnsio gwerin Llys Darog, wneud y dillad, i'r bechgyn ac i'r merched, i gyd ei hun!
Roedd yn bleser gweld lliw a safon baneri'r llysoedd a ddyluniwyd gan fyfyrwyr blwyddyn 12, yn arbennig y faner fuddugol, sef Llys Darog a ddyluniwyd gan Carwyn David.
Rhown ein diolch gwresog i'r beirniaid a fu'n rhoi eu gwasanaeth ar hyd y dydd. Beirniad y fedal Ll锚n Saesneg oedd Mr. Huw Iorwerth; Cystadleuaeth Y Gadair Mrs. Mair Evans; Y Cylchgrawn, Miss Margaret Davies a Mrs. Si芒n Evans; sgets, Mr. Jonathan Thomas; cystadlaethaucerddorol, Miss Catherine Davies a chystadlaethau dawnsio disgo a dawnsio gwerin, Miss Ffion Medi a Miss Hayley Price. Braf, yn wir, oedd gweld cymaint o gyn disgyblion a chyn athrawon ymhlith y beirniaid.
Rhian, enillydd y Fedal Ll锚n Saesneg
Enillydd Cystadleuaeth y gadair oedd Nathan Munday, blwyddyn 10 o Lys Darog a Rhian Lloyd o Lys Darog, eto, enillodd y Fedal Ll锚n Saesneg. Llys Darog hefyd enillodd Gystadleuaeth y Cylchgrawn. Disgyblion blwyddyn 13 a 12 ac un o flwyddyn 10 oedd aelodau'r orsedd. Mathew Williams a Roy Llywelyn oedd y trwmpedwyr a Bella, Catherine, Ioan ac Osian o flynyddoedd 7 ac 8 oedd y clocswyr yn seremoni'r cadeirio.
Yn wir, blwyddyn Llys Darog oedd hi eleni - yn y cystadlaethau llwyfan a'r cystadlaethau ysgrifenedig. Mwynhawyd diwrnod o hwyl a sbri yn ogystal 芒 chystadlu safonol iawn - heb unrhyw awgrym o gythraul y canu.
|