Tyst i hyn yw'r ffaith fod Cwmni Theatr Arad Goch wedi dew is addasu un o'i gyfrolau - Lleuad Yn Olau - ar gyfer ei sioe haf eleni a fydd yn teithio ledled Cymru. Jeremy Turner yw'r cyfarwyddwr ac mae'r cast yn wynebau cyfarwydd i gynulleidfaoedd sioeau Arad Goch - Ffion Wyn Bowen, Rhiannon Morgan. Owain Ll欧r Edwards, Eifion Dafydd ac Iwan Charles. Mae Rhiannon yn hanu o Gwm Gwendraeth ac mae'n falch iawn o gael y cyfle i berfformio ym Mhontyberem, Caerfyrddin a Llanelli, meddai: "Mae cynulleidfaoedd Cymru i gyd yn gr锚t ond mae cynulleidfaoedd yr ardal yma yn hynod o groesawgar, mae'n bleser mawr cael perfformio iddynt." Heb os mae T. Llew yn stor茂wr penigamp a dyma a geir yn Lleuad yn Olau - casgliad o stor茂au cyffrous, byrlymus fydd yn swyno cynulleidfaoedd o blant ac oedolion fel ei gilydd. Mae rhai ohonynt yn arbennig i Gymru, eraill yn debyg i stor茂au o ddiwylliannau a gwledydd eraill, ond maent oll yn rhan o'n hetifeddiaeth a'n hymwybyddiaeth. Mae yma dylwyth teg, cewri, gwrachod, hud a lledrith. Mae modd i chi ymweld 芒 byd cyfareddol T. Llew mewn 13 canolfan ar draws Cymru - perfformir yn:
Neuadd Elli, Llanelli, Ddydd Iau 16 Mehefin am 10.30 am. (01554 774057); Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, Ddydd Mercher 22 Mehefin am 1.30 p.m. (01994 241222) Neuadd Pontyberem, Ddydd Gwener 24 Mehefin am 1.30 p.m. (01269 871600). Am fanylion pellach cysylltwch 芒 Chwmni Theatr Arad Goch, 01970 617998, post@aradgoeh.org neu ymwelwch 芒'r wefan www.aradgoch.org
|