Cynhaliwyd yr achlysur yn y "Poacher's Rest" yng Nglanyfferi, gyda dros gant yn bresennol.
Fe ddaeth rhai aelodau mor bell ag o Aberystwyth a Chaerdydd, i dreulio noson gyda'i gilydd yn hel atgofion am yr amser gynt. Yn bresennol hefyd roedd y timau presennol, a chafwyd noson o fwynhad gyda'r hen a'r ieuanc a hefyd eu gwragedd a'u cariadon. I ddathlu'r digwyddiad, gyda'r trefniadau yn nwylo medrus Wyn James, Llangyndeyrn, sydd wedi bod yn gysylltiedig 芒'r clwb ers pymtheng mlynedd ar hugain, rhoddwyd DVD i bob aelod, yn cynnwys lluniau ac ystadegau yn dangos datblygiad y clwb. Paratowyd y DVD yn fedrus gan Wyndham Lewis, Pontyberem, ac wrth weld yr ymddangosiad cyntaf, roedd pawb yn bresennol yn synnu at y safon uchel, gyda'r DVD yn llawn o wybodaeth diddorol.
Y llun cyntaf a welwyd oedd hwnnw o'r t卯m yn y cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd, yn nhymor 1938 - 39 (gweler uchod). Yn gynwysiedig roedd cymeriadau o'r dyddiau gynt, dau ohonynt wedi eu lladd yn y rhyfel, ac un arall a fu farw mewn damwain tanddaearol yn y diwydiant glo, ond un chwaraewr, sef Islwyn Wilkins, Brynawelon, Bancffosfelen, sydd yn naw a phedwar ugain mlwydd oed ac yn parhau i fwynhau gweld chwaraeon o bob math. Bydd y DVD yn swfenir gwerthfawr i bawb i'w fwynhau yn y dyfodol. Yn ystod yr ymddangosiad cyntaf cafwyd sylwebaeth gan Wyn James, a bu hwnnw'n fwynhad ychwanegol.
Gwahoddwyd dau o'r hen aelodau i siarad: Dr. Keith Rowlands, Aberystwyth, yn gyntaf, ac fe soniodd am ei falchder o fod yn gysylltiedig 芒'r clwb. Soniodd Haydn Scaife, Crwbin, am y digwyddiad pan huriodd y clwb fws y Western Welsh i fynd 芒'r t卯m i Lanelli yn y 1950au, a thorri lawr ym mhentref Llannon. Un nodyn trist yn ystod y dathlu oedd ymadawiad Gordon Miles, capten cyntaf o Glwb P锚l-droed Bancffosfelen ym 1957.
Daeth y noson gofiadwy i ben gyda'r diddanwr enwog, David Reynolds, ar ei orau
|