(Llun: Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth yn perfformio 'Tra Bo Dau' yn 2006)
Ar nos Sul, Rhagfyr 3 yng Nghapel Caersalem yr oedd Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth yn perfformio oedfa Nadolig, 'Y Garol a'r Gair'. Yr oedd aelodau iau a h欧n y theatr wedi dod at ei gilydd er mwyn perfformio neges y Nadolig mewn modd traddodiadol a modern.
Caed amrywiaeth o ganu, adrodd, darlleniadau a stor茂au'r Geni; oll yn cynnwys elfennau o brofiadau plentyn bach yn ystod yr 糯yl, i gofio am y rhai sy'n dal i ddioddef ac i drosglwyddo gwir ystyr y Nadolig - yr hyn yr ydym weithiau yn ei anghofio pan fyddwn yn pryderu am ein hanrhegion, y twrci a'r pwdin plwm!
Trefnwyd yr oedfa ar gyfer ap锚l Pwyllgor Llefaru Eisteddfod yr Urdd i godi arian i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir G芒r 2007 ac i sicrhau mwy o brofiadau o'r math hwn i'r bobl ifainc. Rydym yn ffodus iawn fel theatr ieuenctid i gael pobl broffesiynol yn cyfarwyddo ac yn gweithio i'r eithaf i gynhyrchu ein sioeau. Mae'r diolch hynny yn mynd i gyfarwyddwr artistig y theatr, sef Carys Edwards, y cyfarwyddwr cerdd, Gwenda Owen, ac i gyfarwyddwr y theatr iau, Catrin Rees. Hefyd gwerthfawrogwn waith caled y band, a hefyd Emlyn Dole am ei arbenigrwydd yn y cyfansoddi!
Braf oedd gweld nifer o blant y Cwm yn cyd-weithio mor effeithiol a phroffesiynol. Bu amrywiaeth yn oedrannau'r perfformwyr - o'r ysgolion cynradd i fyny at ddosbarth y chweched yn yr ysgolion uwchradd ac roedd y safon yn uchel iawn! Rydym yn ffodus iawn eto i gael pobl ifanc o'r fath yma yng Nghwm Gwendraeth.
Wedi oedfa'r Nadolig, gofynnodd 成人论坛 Radio Cymru Bangor i Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth i gymeryd rhan yn oedfa Nadolig y radio ar fore Sul, Rhagfyr 10fed gyda'r Parchedig Emlyn Dole. Canwyd sawl c芒n allan o Oedfa'r Nadolig, a bu sawl darlleniad gan yr aelodau am eni'r Iesu.
Profiad anhygoel oedd hyn i'r aelodau, oherwydd rhoddwyd blas iddynt ar waith y cyfryngau, a hefyd roedd yn gyffro mawr i glywed eu hunain ar Radio Cymru.
gan Emma Weston, Menter Cwm Gwendraeth
|