Ar yr achlysur arbennig hwn derbyniodd lu o gyfarchion swyddogol yn ogystal 芒 chardiau ac anrhegion gan berthnasau, cymdogion a chydnabod a oedd yn dymuno'n dda iddi. Cafodd ddathlu gyda pharti teuluol yn 'The Old Emlyn Arms' Llanarthne, lle gwelwyd hi yn mwynhau cinio blasus a gwydraid bach o win. 'Sgrifennwyd ychydig o benillion gan ei merch yng gnhyfraith i gofnodi'r garreg filltir hon yn ei hanes. Dyma ddetholiad o'r penillion. Gallwch ddarllen y gerdd yn ei chyfanrwydd yn rhifyn Hydref o Papur Y Cwm. Roedd mam yn gant oed 'leni Ar ddydd Llun cynta' Medi, Mae'n ffaith sy'n gwir rhyfeddu Cymydog, ffrind a theulu. Mor llawen oedd cael dathlu, Hir hoedledd pen y teulu, Mae'n haeddu ei hedmygu Am frwydro i oroesi. ... Mae'n hynaf un o blant y fro, Deil lu hanesion yn ei cho' Am ddyddiau ysgol oes a fu, Athrawon a disgyblion lu. Nid pawb gaiff gerdyn gan y Cw卯n, Ac yn y papur weld ei llun Yn gwenu'n hynaws ar ei phlant A hithe bellach dros y cant!
|