Y prif ffilm oedd 'David' - y ffilm enwog yn seiliedig ar fywyd y cyn-l枚wr a gofalwr ysgol o Rydaman D. R. Griffiths, ac yn fwy adnabyddus fel y bardd Amanwy. Cyflwynwyd hwn gan un o'r s锚r - Gwenyth Petty a'i merch Sara Edwards, sy'n fwy cyfarwydd i ni fel darlledwraig 'Wales Today'. Yn y gynulleidfa roedd cryn nifer o dylwyth David Griffiths (Amanwy) a'i frawd y gwleidydd Jim Griffiths. Gyda'r ddwy ffilm roedd casgliad diddorol o hysbysebion sinemaRhydaman o'r 1930au. Fodd bynnag yr ail ffilm 'Dylan Thomas' oedd yr un 芒 chyswllt lleol. Mae rhai o drigolion Llanddarog yn cofio fel yr arferai Dylan oedi yno am ddiod ar ei deithiau o Abertawe i Dalacharn ac yn 么l. Fe gafwyd perfformiad caboledig gan Richard Burton ond i lawer y ffotograffiaeth a roes adlewyrchiad cofiadwy iawn o eiriau'r bardd hwn. A dyma lle ceir y cyswllt gwir leol. Fel y nodwyd yn y teitlau y person a oedd yn gyfrifol am y ffotograffiaeth oedd Ifor Thomas. Serch hynny ychydig bach o bobl a wyddai ei fod yn dod o bentref llai na milltir o'r sinema. Mab i l枚wr o Gefneithin oedd Ifor Thomas ac mae ei chwaer Morwen yn dal i fyw yng Nghefneithin. Efe i lawer oedd yn gyfrifol am ddyrchafu ffotograffiaeth yn fodd o gelfyddyd. Yn un o brif ddatblygwyr ffotograffiaeth wedi'r rhyfel ymddangosodd ei waith yn gyson yn yr Academi Frenhinol. Un o arwyr y Genedl ac yn sicr arwr lleol nad yw'n cael ei gydnabod yn ddigonol.
|