"Politicians make war, not the soldiers or anyone else." Dyna oedd ei farn onest wrth i'w deulu wynebu cylchwyl pen-blwydd marwolaeth ei fab. Mi wnaeth digwyddiadau ysgytiol Medi 11eg, 2001 ysgwyd U.D.A. i'w seiliau a mi ddeallwch pam wrth i chi geisio dychmygu maint y difrod a achoswyd pan syrthiodd gefelldyrau Canolfan Masnach y Byd yn dilyn yr ymosodiad terfysgol. Wedi ei ddal ar fideo a'i gofnodi am byth, fe'i ddarlledwyd yn fyw ar draws y byd fel penawd newyddion y dydd. Mae'r digwyddiad yna, yn fwy nag un arall yn y blynyddoedd diwethaf, yn disodli llofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy, fel yr un y byddwch yn cofio ble'n union yr oeddech ar y pryd. Eleni, mi es yng nghwmni dau aelod arall o G么r y Mynydd Mawr, Dan Jones a Jim Herbert i ymweld 芒 Ground Zero. Roeddem yn America yn rhan o G么r Llewod Prydain ar gylchdaith cyngherddau gan gynnwys un yn Sgw芒r Hanover, Efrog Newydd, lle mae Gardd Goffa yn cael ei chreu i gofio'r dioddefwyr Prydeinig yn nhrasiedi Medi'r 11eg. Roedd ein cyngerdd yn rhan o 'r ail-gylchwyl yn Efrog Newydd i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau ac mewn ffordd fechan yn gymorth i'r miloedd o deuluoedd a effeithiwyd am byth gan ddigwyddiadau erchyll y bore heulog hwnnw ddwy flynedd yn 么l. Gellid mynd heibio Ground Zero a'i ystyried yn safle adeiladu gan fod yr awdurdodau yn parhau i weithio arno. Ond pan edrychwch ar yr entrychdai (skyscrapers) o'ch cwmpas, yna mi ddechreuwch werthfawrogi maint graddfa o sylweddoli i'r gefelldyrau fod hanner cymaint eto o uchder o'u cymharu 芒'r adeiladau ochr yn ochr 芒 hwy. Ar ddiwrnod y cofio roedd blodau ym mhob man. Daeth miloedd i dalu parch. Er mai busnes fel arfer yw hi yn Wall Street' gerllaw fe deimlir y tawelwch trawiadol sy'n cwmpasu yr ardal o flaen ac o gwmpas y safle a hyn ynddo'i hun yn dangos parch. Y Tacsis Melyn enwog yn mynd heibio heb furmur, loriau a bysiau yn mynd yn eu blaen yn dawel a'r rhan fwyaf o'r bobl yn plygu pen fel arwydd o barch. Beth bynnag fydd dyfodol y safle, bydd Efrog Newydd fyth yr un peth eto. Ellis Davies
|