Mae dwy ysgol o'r cwm wedi bod yn llwyddiannus wrth ennill Statws Ysgolion Rhyngwladol.
Derbyniodd Ysgol Cefneithin ac Ysgol Carwe eu gwobrau yn ddiweddar mewn seremoni yn Llundain, Cyflwynwyd y gwobrau i dros 400 o ysgolion dros Brydain, gydag 17 yn unig o Gymru, gan George Alagiah o'r 成人论坛.
Dangosodd yr ysgolion llwyddiannus ymrwymiad i ddatblygu ethos rhyngwladol drwy weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol oedd yn hybu gwell dealltwriaeth am ddiwylliannau eraill. Ymhlith y gweithgareddau y bu'r ysgolion yn rhan ohonynt oedd prosiect gwreiddiau ac adenydd 'Pass the Parcel' gydag lwerddon a Denmarc (Prosiect sy'n cysylltu ysgolion ar draws Ewrop.
Cynhaliwyd llu o weithgareddau yn yr ysgolion yn cynnwys Neges Heddwch ac Ewyllys Da, Wythnos Brecwast Ewropeaidd, Noson Mecsicanaidd, gweithdai drymio a nosweithiau rhyngwladol yn ogystal 芒 dathliadau'r cynhaeaf a'r Nadolig ar draws y byd. Cafwyd ymweliadau gan athrawon o Lesotho ac Ewrop ynghyd 芒 llawer o waith trawsgwricwlaidd mewn gweithdai celf, technoleg a cherdd.
Bu Polly Setton (athrawes ymgynghorol ar gyfer y dimensiwm rhyngwladol) yn ymweld a 'r ddwy ysgol er mwyn dathlu eu llwyddiant. Bydd y statws hwn yn parhau am dair blynedd.
|