Fis Gorffennaf eleni bu aelodau o'r gangen ynghyd 芒 chyfeillion, perthnasau a ffrindiau ar ymweliad 芒'r Brifddinas. Dan nawdd arian y loteri y sicrhawyd bws i'w cludo i'r Amgueddfa Genedlaethol gyda'r bwriad o gael gweld casgliad arbennig iawn y Chwiorydd Davies, Gregynog, o gerfluniau yn ogystal 芒 darluniau amhrisiadwy o waith artistiaid byd-enwog fel Renoir a Monet, Cezanne a Van Gogh yn dirluniau ac yn bortreadau, sy'n eiddo i'r genedl. Gwledd amheuthun, yn sicr, oedd symud o lun i lun o waith y Meistri, a'r rheiny wedi'u harddangos yn y drefn y prynwyd hwy gan Gwendoline a Margaret Davies.
Gyda thywysydd Cymraeg fe'n harweiniwyd ar hyd llwybr hanes magu ac addysgu'r chwiorydd a dod i ddeall mor llym oedd eu credoau crefyddol Methodistiaeth Calfinaidd. Ystyrient elusengarwch a gwasanaeth i'r cyhoedd yn ddyletswydd ac wedi etifeddu cyfoeth eu taid, yr athrylith o beiriannydd a diwydiannwr, David Davies, aent ati i brynu arlunweithiau yn 么l cyfarwyddyd proffesiynol yn ogystal 芒 chwaeth bersonol.
Ymhyfrydent mewn perffeithrwydd ac ym mhob agwedd ar fywyd a chelf, ac amlygir hynny ymhellach gan y celfi a brynasent i'w cartref ac yn y llyfrau cain a argraffwyd gan Wasg Gregynog sydd hefyd yn rhan o'r arddangosfa.
Yn sicr, cawsom gymaint gwefr o ganfod a gweld, nes i rai o'n haelodau dreulio'r dydd ar ei hyd yn yr Amgueddfa, ond wedi ymlacio dros ginio yn y ffreutur wrth gwrs! Gyda mynediad am ddim beth sydd i'n rhwystro rhag ymweld eto cyn bo hir? Melys moes mwy!
Er mai i siopa yr aethai llawer o'r fintai yn y prynhawn, ymwelodd eraill 芒'r Castell er mwyn cael ymweld 芒 stafelloedd moethus a hardd y teulu Bute. Cawsom bleser mwy o'r ymweliad gan i ni gael ein tywys gan wraig frwdfrydig a gwybodus. Gwnaeth y Sgotyn, yr Arglwydd Bute, a dreuliai ond rhyw chwe wythnos o'r flwyddyn yn ei gastell yng Nghaerdydd, ond a ddodrefnodd ac a addurnodd ei d欧 haf, dro da 芒 Chymru! Fe'i derbyniasom yn rhodd ganddo. Dyna i chi haelioni.
Cyn troi am adre' cawsom gyd swpera yn y Bae i gloi diwrnod cofiadwy o bleserus, gyda'r hin yn dda, y cwmni'n gytun, a'r profiadau yn wefreiddiol.
Yn y llun fe welir swyddogion y gangen yn dal y siec am 拢2,940 a alluogodd y gymdeithas ymledu ei hap锚l. Ehangwyd ein gorwelion ni, ac eraill, gan ein gwneud yn falchach o'n sefydliadau cyhoeddus ac yn fwy ymwybodol o gymwynaswyr mawr y gorffennol.
Mwy am Chwiorydd Davies Gregynog