Cyfrol o emynau a detholiad o homil茂au y Parch T. Elfyn Jones. Bu'n gweinidogaethu ym Mheniel a Bwlchycorn am bron i ddau
ddegawd.
Llywyddwyd y cyfarfod gan y gweinidog presennol, sef y Parchedig Ken Williams. Canodd y gynulleidfa emyn o'r gyfrol sef 'O doed dy deyrnas, Nefol Dad' i ddechrau'r cyfarfod ac yna darllenwyd dwy homili a ymddangosodd ym Mhapur y Cwm, gan ysgrifenyddion y ddwy eglwys, Mr. Rheon Roberts a Mr. Alun Lenny.
Tro plant yr Ysgol Sul ydoedd wedyn i adrodd a chanu'n swynol yr emyn plant, "Tydi sy'n deffro'r adar'. Cafwyd unawd gan 诺yres yr emynydd, Fflur Dafydd o'r emyn 'Drugarog Dduw, gerbron dy orsedd Di'. Ar 么l gair gan Lywydd yr Undeb, y Parchedig Gareth Morgan Jones, sydd yn olynydd i T. Elfyn Jones yn y Tabernacl, Pontardawe, cafwyd anerchiad gan fab yr emynydd, Geraint Elfyn Jones.
Tynnodd sylw'r gynulleidfa at y cyfeiriadau yn y Beibl at 'emyn' ac yna at rai nodweddion yng ngwaith ei dad cyn cloi ei araith drwy ddweud bod neges yr efengyl o fewn cyrraedd pawb, "Nid yw'r ffordd ymhell o UNMAN /Yng ngoleuni ei Seren Ef."
Yna, darllenodd Mrs Gwyneth Williams stori'r emyn 'O Arglwydd, anfon newyn" cyn iddo gael ei ganu gan y gynulleidfa i gloi'r noson.
Paratowyd lluniaeth helaeth gan wragedd y ddwy eglwys a mawr oedd y croeso a'r llawenydd yn y festri wrth gymdeithasu a phrynu copi o'r llyfr. Dywed merch yr emynydd, Menna Elfyn, mewn erthygl papur dyddiol: "Yn y festri honno, yr oedd yna haelioni a llawenydd a oedd yn falm i'r galon, ac yn sicr i henwr, yn fodd i fyw." (W.M. 29/09/05.)
Dymuna'r teulu ddiolch am yr holl gefnodaeth garedig.
|