Roedd hi'n noson oer pan gyfeiriais i drwyn y car i mewn i'r gwynt ac ymlwybro dros yr ychydig filltiroedd sydd yn gwahanu Pontyberem a phentref Crwbin. Roedd hi'n oer hefyd a hithau yng nghanol y cyfnod annelwig yna pan fo'r Hydref yn dechrau ildio i'r gaeaf. Ymweld ag Arwel John oeddwn i, a hynny ar gais pwyllgor Undeb Cwm Gwendraeth, Os oedd hi'n oer y tu fas,, roedd croeso twymgalon gan Arwel a Meinir ac erbyn i mi adael roedden ni'n dau wedi cytuno y byddai ef yn llunio'r sgript a minnau'n cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer y cyflwyniad. Fe gafodd Arwel Nadolig go fishi oherwydd yn driw i'w air, fe gyrhaeddodd y sgript ar fy nesg i erbyn diwedd Ionawr ac ynddi y deuddeg c芒n oedd angen cerddoriaeth ar eu cyfer. Y teitl a roddodd ar y gwaith oedd 'Yn gymyg oll i gyd', ac fel mae'r teitl yn awgrymu redd geiriau Arwel yn galw am amrywiaeth o gerddoriaeth o ran steil a diwyg ac fe gefais lawer o hwyl yn cyfansoddi dros y ddeufis nesaf. Yn 么l ei arfer mae Arwel wedi cyflwyno gwaith sydd yn safonol, yn wreiddiol ac yn gyfoes ac un sydd yn codi pob math o emosiynau a chwestiynau. 'Dwi i ddim am ddatgelu mwy i chi oherwydd byddai hynny yn sbwylio'r cyfan i'r rhai ohonoch a fydd yn gallu ei fwynhau Nos Wener, Mehefin 18fed yn Neuadd Pontyberem. Pan ddechreuodd y rihyrsals ym mis Mawrth daeth llond lle o blant a phobl ifanc yr Eglwysi at ei gilydd i ddechrau rihyrsio. Mae llawer ohonyn nhw eisoes yn perthyn i gwmni Drama ieuenctid Cwm Gwendraeth ac mae llawer o' Cwmni wedi ymuno 芒 ni i'w pherfformio. Mae e wedi bod yn bleser cael bod yn rhan o'r broses a gweithio gyda'r bobol ifanc. Mae eu brwdfrydedd yn heintus. Mae na d卯m helaeth ohonon mi yn cynorthwyo gyda'r cynhyrchiad a hynny o dan arweiniad Carys Edwards sydd yn cyfarwyddo'r sioe a Gwenda Owen sydd yn cyfarwyddo'r canu. Wrth ysgrifennu hwn ar eich cyfer chi mae'r rihyrsio wedi cyrraedd y man lle mae'r cyfan yn dechrau dod at ei gilydd a'r glud theatraidd yn dechrau cydio'r cyfan yn ei gilydd er mwyn gwneud un cyfanwaith hyfryd. Mae na dipyn o waith ar 么l i'w wneud, ond erbyn nos Wener y 18fed bydd pawb a phopeth yn ei le, er mwyn rhoi noson gofiadwy iawn i bawb fydd yno. Byddwch chi'n gallu mynd 芒'r cyfan gartref gyda chi hefyd, gan ein bod yn paratoi Cryno ddisg o ganeuon y sioe a fydd ar werth ar y noson ac ar 么l hynny o Swyddfa Menter Cwm Gwendraeth. Edrychwn ymlaen i'ch gweld ar y noson . Rhag ofn na fyddwch yn gallu bod yn bresennol, fe fyddwch yn gallu gweld y Sioe yn yr Eisteddfod, fe fyddwn yn ei pherfformio yn Theatr y Maes ar ddydd Sul cynta'r Eisteddfod ar Awst 1af am 1.00 o'r gloch. Emlyn Dole.
|