成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Wilia
Magdalen (Lowri Jones) a Hedd (Si么n Owen) Mwynhau Magdalen
Rhagfyr 2004
Roedd Neuadd Pontyberem yn fwrlwm o fywyd, yn f么r o g芒n ac yn oriel ddiddorol o gymeriadau yn ystod ail wythnos mis Tachwedd pan lwyfannwyd y sioe gerdd 'Magdalen'.
Awduron y sgript oedd y Prifeirdd Tudur Dylan a Cefin Roberts a chyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Gareth Glyn. Cyflwynwyd y fersiwn fodern hon o hanes Magdalen gan drawsdoriad o ddisgyblion yr ysgol o dan arweiniad campus Pennaeth yr Adran Ddrama, Mrs. Carys Edwards, a Mrs. Nikola Roderick, Pennaeth yr Adran Gerdd.

Cafwyd perfformiadau egn茂ol a lliwgar wrth i ni ddilyn Magdalen drwy gyfres o brofiadau - yn un o gang y stryd, yn Ilercian yn ardal golau coch y puteiniaid, yn y salon wrth ei gwaith ac yn ei chyfeillgarwch agos 芒 Hedd. Roedd y lliw, y symud a'r emosiynau amrywiol yn y golygfeydd hyn yn adlewyrchu realiti bywyd mewn gwahanol agweddau o fywyd ein cymdeithas gyfoes.

Neges y cynhyrchiad yn sicr oedd holed pawb ei hun. Roedd y perfformiad yn rhoi digon o gyfle i bawb fyfyrio a chnoi cil ar broblemau cyfoes.

Cludwyd y gynulleidfa o'r stryd i gapel Seion, o'r salon i fywyd digyfeiriad y gang o bobl ifanc ar y stryd, o fywyd y strydoedd cefn i aelwyd anghynnes mam Magdalen. Ynghanol y difrifwch roedd y gynulleidfa yn ymateb i ffraethineb y cymeriadau a doniolwch y natur ddynol mewn rhai sefyllfaoedd!

Roedd y canu a'r symud yn wirioneddol wefreiddiol gyda chyfraniad trawiadol o effeithiol gan y band a oedd yn cynnwys disgyblion, athrawon teithiol a thri o athrawon yr ysgol.

LLongyfarchiadau i bawb - yn actorion, cantorion, dawnswyr, cerddorion a staff - am berfformiadau arbennig o gaboledig.

Dyma sylwadau rhai o'r bobl ifanc fu'n perfformio yn y sioe gerdd:

Gwenan Thomas
Fe wnes i fwynhau'r canu, dawnsio ac actio. Roedd y sialens o gymeriadu cymeriad creulon yn brofiad newydd. Roedd y sioe yn rhoi cyfle i wneud mwy o ffrindiau!! Diolch am y cyfle.

Heulwen Beasley
Roedd y sioe yn brofiad anhygoel. Fe ges i wefr ac rwyf wedi dysgu llawer amdanaf fy hun ac eraill. Mae wedi bod yn gyfle i mi gymdeithasu ac rwy'n methu aros am y sioe nesaf! Fe wna i gofio'r profiad am byth!

Sara Herbert Evans
Roedd bod yn y sioe 'Magdalen' yn brofiad arbennig. Mae'n deimlad anhygoel i fod ar y llwyfan gyda phawb yn eich canmol. Methu aros tan y sioe nesaf!

Mae mwy o luniau a sylwadau'r cast yn rhifyn Rhagfyr o Bapur y Cwm.

Fuoch chi'n gweld perfformiad o Magdalen? Beth oedd eich barn - rhowch wybod i ni isod!


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 成人论坛 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy