Gwyl yw hon sy'n rhoi cyfle i'r Gwledydd Celtaidd - yr Alban, Ynys Manaw, Cymru, Yr Iwerddon, Cernyw a Llydaw i ddod at ei gilydd i gystadlu a mwynhau'r awyrgylch Geltaidd amlddiwylliannol ac amlieithog. Yn y gorffennol mae'r wyl wedi cael ei chynnal mewn amryw o drefi yn Iwerddon fel Galway, Ennis, Killarney neu Tralee. Ond eleni cafodd ei chynnal yng Nghil Channaigh.
Noson agoriadol mewn castell Cafodd noson agoriadol yr wyl ei chynnal yng nghastell Cil Channaigh ac yn nes ymlaen yn yr wythnos, cafwyd gorymdaith o gynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd trwy ganol y ddinas, gyda chorau o Gymru, dawnswyr o Gymru a'r Alban, ac offerynwyr o Iwerddon.
Gyda'r nos cafwyd cyngherddau anffurfiol gydag offerynwyr o Iwerddon ac acordwyr piano o'r Alban mewn sawl tafarn leol, a chafwyd diferyn neu ddau o Ginis yn y fargen.
Yn y gystadleuaeth C芒n Pan Geltaidd daeth Elin Fflur, enillydd C芒n i Gymru, yn fuddugol gyda'r g芒n Harbwr Diogel gyda chystadleuydd Cernyw yn dynn wrth ei sodlau.
Cyngerdd mawreddog Nos Wener, cafodd Cantorion y Rhyd gyfle i ganu mewn cyngerdd mawreddog yng Nghadeirlan St. Candice. St. Candice ywr Eglwys fwyaf yn Iwerddon, gyda'r acwstics gorau yn Ewrop . Yn dilyn hyn aeth y c么r i berfformio yng nghyngerdd Noson y Cymru yn un o westai'r ddinas. Un o uchafbwyntiau'r noson oedd i Jac a Catrin ganu hen g芒n werin gyda'i gilydd.
Y dydd Sadwrn canlynol bu'r c么r yn cystadlu yng Nghystadleuaeth Gorawl y Corau Gwledig. Ar 么l diwrnod o gystadlu, daeth y c么r yn ail y ddwy g芒n oedd Gwanwyn Deyrn Llon a Cennin Aur.
Braf yw gallu dweud i'r daith fod yn llwyddiant ysgubol gan ei bod yn gyfrwng i dynnu pawb at ei gilydd. Cafodd ieuenctid Cantorion y Winllan gyfle i fwynhau eu hunain. Diolch i bawb a weithiodd i sicrhau cydweithrediad a llwyddiant y daith.
Edrychwn ymlaen yn awr at gystadlu yn yr Eisteddfod yn Nhyddewi ac am y daith i'r Amerig y Pasg nesaf.
|