Do, fe gawsom unwaith eto Eisteddfod i'w chofio. Bu'n llwyddiannus a mawr yw'n diolch i'r cystadleuwyr i gyd am ein cefnogi. Hynod iawn y flwyddyn hon oedd gweld cymaint o'n hieuenctid yn cystadlu a rhoi i ni wledd yn ystod sesiwn yr hwyr. Mi wnaeth y ddau feirniad Mr. R Allan Fewster a'r Parch. John Gwilym Jones ddatgan eu bod wedi cael eu boddhau a'u plesio yn fawr gyda safon y cystadlu. Mrs Gloria Lloyd, Rhydaman oedd y cyfeilydd ac mae wedi bod gyda ni'n ddi-dor am 27 o flynyddoedd bellach. Da iawn Gloria.
Beirniaid gwaith yr ysgolion oedd : Barddoniaeth/Stor茂au - Fonesig Sian Elfyn Jones; Arlunio - yr artist Ieuan Rees; Dawnsio Disgo - Matthew McAvoy.
Bardd y Gadair oedd Mr Len Richards, Nantgaredig. Derbyniodd gadair hardd 'carver' ynghyd 芒 gwobr ariannol. Hefyd bu plant Ysgol y Tymbl yn dawnsio yn ystod y seremoni ac yn cyflwyno iddo lamp fechan gl枚wr.
Diolch i'r Pennaeth a'r athrawon am drefnu hyn a pharatoi y plant mor odidog a thrylwyr. Arweinydd y seremoni oedd y Parch. Emyr Gwyn Evans a bu'r cyfan yn urddasol. Canwyd y cornet gan Hefin Jones, Llanarthne; y delyn gan Bethan Williams. Y cyrchwyr oedd Ken, Morwena a Janet, cyfarchwyd y bardd gan Meleri Haf Williams ac Emyr Wyn Thomas a chanwyd c芒n y cadeirio gan Richard Thomas, y Trysorydd.
Cawsom gwmni Llywydd y Dydd Mr. Emyr Wyn Evans, drwy'r prynhawn yngh欧d 芒'r tri mab, Si么n Ifan, Twm a Guto. Roedd ei briod Siwan yn methu 芒 bod gyda ni oherwydd prysurdeb ei gwaith. Hyfryd oedd gwrando ar Emyr yn dweud cymaint oedd yn gwerthfawrogi'r fraint o fod 'n么l yn y Tymbl, pentre' ei eni a'i fagwraeth hyd at ddeg oed.
Diddorol oedd ei glywed yn cyfeirio at lawer digwyddiad yn Ysgol y Tymbl a'r hwyl a gafodd yno, hefyd hanesion oedd yn dod 芒 gw锚n i'n hwynebau. Braf oedd cael eu cwmni.
Arweinyddion y dydd oedd Cadeirydd y Pwyllgor, y Parch Emyr Gwyn Evans,Mri. Gareth Rees, Roy Evans a'r Cynhorydd Neil Baker.
Bu aelodau o fudiad lleol Merched y Wawr yn ddyfal gyda'r lluniaeth a gwerthfawrogwn hyn eto yn fawr. Er bod Mrs. Elsie Evans, Blodau'r Cwm, yn yr ysbyty fe wnaeth yn si诺r fod llwyfan y Neuadd wedi ei addurno gan flodau hardd, Si芒n ei nith yn gyfrifol drosti.
Diolch iddynt a dymunwn wellhad buan i Mrs. Evans. Diolch i stiwardiaid y dydd ac i staff y Neuadd am baratoi'r cyfan ar ein cyfer. Mae pob peth yn cyfrannu at lwyddiant yr 糯yl flynyddol.
Mae rhestr y buddugwyr yn rhifyn Tachwedd o Papur y Cwm.