Ar y clawr a'r cefn, ceir lluniau o ganolfannau'r pentref, sgw芒r top Tymbl a High Street fel ag yr oeddynt ddoe, gyda llun lliw cyfredol wedi ei arosod ar ei ben. Cyhoeddwyd y gyfrol gynhwysfawr hon gan 'Cyfle i bawb', Tymbl. sef nifer o bobl lleol sy'n cwrdd yn rheolaidd yng Nghlwb y Gweithwyr i gynnal a threfnu gweithgareddau cymdeithasol yn y fro. Argraffwyd gan Wasg CMS, Capel Hendre. Cydnabyddir cefnogaeth a chyfraniadau pobl leol, ynghyd 芒 chyfraniad hael gan Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo. Ychydig o waith darllen a geir, gan fod y lluniau yn siarad drostynt eu hunain. Cyfeirir ar y dechrau at gysylltiad Jac Tyisha a'r pentref. Dosrennir y lluniau i wahanol destunau megis y diwydiant glo, ffordd o fyw, diwydiant addoldai, a.y.y.b. Ceir erthygl gan Alun B. Jones am hoelen olaf yn y diwydiant glo, ond fe galonogir calon y darllenydd yn fuan o weld bod y bobl sy wedi sefydlu'r lle wedi codi o'r llwch, wedi anghofio am y dirwasgiad o'r pyllau'n cau ac yn wynebu'r dyfodol yn hyderus. Ceir datganiadau gan rai o feirdd yr ardal; Lilian Rees yn canu yn fanwl am hanes y Tymbl; Emyr Wyn Thomas yn cyflwyno baled er cof am Elizabeth Mary Aitken, yn portreadu ei gweledigaeth a'i phrofiadau hi o fywyd yn y Tymbl. I gloi, telyneg fach dlos gan Meryl Evans yn edrych ymlaen i'r dyfodol. Mae'r holl luniau wedi eu trefnu yn gelfydd a chryno iawn, ac yn portreadu pob agwedd o fywyd y pentre, ac o ddiddordeb i bawb. Mae diolch yn ddyledus i Mr. Ian Aitken a Mr. Graham Jones am eu gwaith manwl a chywir. Rhaid cofio hefyd am Mona Jones ac Alvis Richards a fu'n llywio'r holl brosiect. 拢5 yw ei bris; bargen os bu un erioed, os gellwch ei gael. Mae'n debyg bod mynd mawr arno'n barod. Brysiwch i'r siopau da chi - mae'r ail argraffiad yn awr ar werth!
|