Tra Bo Dau Mai 2006 Perfformiwyd y sioe Tra Bo Dau gan Theatr Ieuenctid Menter Cwm Gwendraeth fel rhan o ddathliadau G诺yl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2007.
Cliciwch yma i weld lluniau o'r perfformiad
Cafwyd cip olwg ar gylch bywyd cyplau amrywiol o blentyndod hyd at y daith olaf un. Gwelir y daith fel taith tr锚n gan aros mewn gorsafoedd gwahanol yn ystod y daith. Yn aml aiff y cyplau trwy dd诺r a th芒n a chwestiynir ystyr cariad a ffyddlondeb.
Yr un yw'r problemau, yr un yw'r camgymeriadau, yr un yw'r wefr wrth ddelio 芒 chariad ar hyd y canrifoedd ac mae'n si诺r y bydd pob unigolyn yn gallu uniaethu ag ambell orsaf ar y daith!
Nid pregethu moesoldeb nac awgrymu beth yw gwir gariad yw'r nod ond cyflwyno bywyd fel y mae ac yng ngeiriau y diweddar Dr. John Gwilym Jones pwysleisio mai 'rhyfedd y'n gwnaed'.
Roedd y sgript yn cynnwys addasiadau o ddeialogau amrywiol a gwaith byr-fyfyr. Defnyddiwyd nifer o ganeuon serch wedi eu cyfansoddi'n arbennig gan Emlyn Dole a Gwenda Owen fel cadwyn o amgylch y deialogau.
Bu perfformiadau yn Neuaddau Pontyberem a Chross Hands.
Cliciwch yma i weld lluniau o'r perfformiad
Sioned Haf Fi'n lico'r llunie o'r sioe yn enwedig o Huw a Mared! Joies i fod yn aelod o gast 'Tra Bo Dau' - roedd yn brofiad heb ei ail!!!
Lisa Marged o Nantycaws Roedd bod yn aelod o gast y sioe yn brofiad bythgofiadwy. Roeddem wedi cychwyn ymarfer a gweithio'n galed ers misoedd ac mi roedd yn wefr cael bod ar lwyfan gyda cast arall o 30 oedd yn mwynhau perfformio cymaint a minnau. Cawsom ymateb ffafriol y ddwy noson gan y gynulleidfa ac rydym yn edrych ymlaen i berfformio'r sioe 'Tra bo' Dau' unwaith yn rhagor yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. Mae'r theatr yn cynnig cyfleoedd gwych ac mi fyddwn yn ogystal yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Edrych ymlaen yn fawr.