Mae'n dda bod rhai ohonom fel y wiwer yn storio, oherwydd daeth yr ateb i'r cwestiwn uchod yn ddiarwybod wrth ddarganfod erthygl ar 'Llyn Llech Owain' a ysgrifennodd y diweddar D. H. Culpitt i'r Tyst ym Medi 1969 a dyma godi'r llen ar un o hen arferion pen ucha'r Cwm :Mae yna ddarn o dir ar y bryn hwn a elwir yn Erw'r Werin, ac yr oedd gan y werin bob hawl i fynd i'r fan yma ar ddiwrnod Gwyl Ifan bob blwyddyn i hel y swnd gwyn sydd yno.
Defnyddier y swnd yma i osod ar y rip er mwyn lladd gwair a thorri yd ac hefyd ei ddodi ar lawr eu ceginau a'i ddysgub allan 芒 sgubell i gadw y lloriau yn l芒n. Gosodir bloneg mochyn ar ddarn o astell 芒'r swnd arno, ac y mae hen rigwm bach o hyd i gofio am y peth:
Bloneg moch Cydweli,
A swnd o Fanc y Llyn;
A hogi 'n aml, aml
Fe dyr y gwair fel hyn.
Y mae llawer fersiwn at hwn hefyd.
Gan fod nifer o ddynion yn cyd-gwrdd fel hyn ar ddiwrnod Gwyl, rhaid oedd dod 芒 lluniaeth gyda hwy ac wedi cael lluniaeth i ysgafnhau eu baich, naturiol iawn oedd cael rhywfath o fabolgampau, a chofiaf mam a 'nhad yn s么n am y mabolgampau hyn. Felly, aeth diwrnod cyrchu'r llwch gwyn yn ddiwrnod nodedig ym mywyd y cylch, a thyfodd enw y Llyn, yn Llyn-y-llwch Gwyn, a gelwid y llyn wrth yr enw hyn ar un adeg ac hefyd wrth Lyn Tegwyn. Soniodd y Parch. T. Rees fel hyn yn ei hanes: "The lake is called by the unfamiliar name of Llyn Tegwyn".
Roedd angen rhywbeth i ddiddanu plant gyda'r hwyr, felly, dyma rywun a oedd yn berchen dychymyg da yn mynd ati a llunio stori dda am y llyn, ac o Lyn y llwch Gwyn tyfodd yn Lyn-y-llech Owen. Y mae'r stori yn werth ei hadrodd a'i chadw ar gof.
Ond, yr enw a' m denodd i fwyaf oedd ' Erw'r Werin', a chredaf fod yr hanes hwn hefyd yn werth ei gadw ar gof, a dyna beth a'm denodd i i ganu y g芒n fach hon i'r darn tir. A gan nad oes fawr o neb yn mynd yno y dyddiau hyn, 'does dim angen am swnd, neu lwch gwyn, at rip na llawr cegin, a chredaf mai fi oedd bron yr olaf a fu yn caru yn y grug yna. 'Newid ddaeth o rod i rod', ond y g芒n ... a'i amcan pennaf yw cadw'r hen enw ar gof a chadw Erw'r Werin'.
D. H.C.
O.N.: Bellach, 芒'r darn yma o dir yn rhan o Barc Gwledig Llyn Llech Owain daeth newid eto yn hanes y llecyn hwn ac ymwelwyr yn tyrru yno y dyddiau hyn.
Cliciwch yma am hanes yr ardal a chwedl Llyn Llech Owain.
Diolch i'r teulu am ganiatau i ni gyhoeddi'r gerdd a rhan o'r erthygl.
Dyma'r gerdd :Erw'r Werin
Mae darn o dir ar Fanc-y-llyn,
Lle caiff y grug gynefin;
Ac enw'r fan ar lafar gwlad
Medd nain, yw 'Erw'r Werin'.
D么i pobloedd lawer at y lle,
A'r haul a thywydd gerwin:
I gasglu swnd ar ddiwrnod gwyl
Am ddim o Erw'r Werin.
O osod hwn yn drwch ar rip,
A bloneg arni'n ddibrin,
Fe dorrid yd a gwair yn l芒n
Ag awch o Erw'r Werin.
Bum innau yno'n wyn fy myd,
Dan lewyrch haul Mehefin,
Yn casglu rhywbeth gwell na swnd
Ar randir 'Erw'r Werin'.
D. H. Culpitt. Cefneithin