Cyflwynwyd iddo statws Prif Fridiwr, yr acol芒d uchaf a roddir gan Gymdeithas Genedlaethol y Colomennod.
Cychwynnodd ei ddiddordeb ym myd y da pluog pan oedd yn ifanc iawn. Roedd ei dad - Morgan (Moc) Bradbourn, Heol Tyisha, Y Tymbl, cymeriad lleol adnabyddus, yn cadw caneris mewn adardy ym mhen ucha'r ardd. Teithiai Francis, ac yntau yn ei arddegau, ar ei feic i Felinfoel, Bynea a Llanelli i gwrdd 芒 bridwyr colomennod eraill, Casglodd lawer o wybodaeth trwy drafod gyda hwy a chyn hir gwelwyd ef yn mynd ati i fagu ei haid ei hun.
Mae ef a'i wraig Janet wedi arddangos eu colomennod am dros ddeugain mlynedd mewn gwahanol sioeau yn y D.U. ac wedi ennill y gwobrau uchaf. Gelwir ar Francis i wasanaethu fel prif feirniad gan ymweld 芒 sioeau yn y D.U. ac Ewrop. Bu'n stiward yn Sioe Frenhinol Cymru yn gyson am dros ugain mlynedd a gwahoddwyd ef i feirniadu ym mlwyddyn canmlwyddiant y sioe.
Doedd arddangos y bridiau cydnabyddedig o adar sioe ddim yn ddigon i Francis ac felly, gyda nifer fechan o ffansiwyr colomennod, dyma gyflwyno Colomen Sioe Americanaidd a adnabuwyd fel y golomen 'Frenin' i'r D.U.
Aeth ymlaen i ddatblygu ei ddiddordeb yn y brid drwy ganolbwyntio ar fagu stoc. Bellach cedwir y golomen `Frenin' gan bron pob ffans茂wr colomennod yn y D.U. a cheir adran arbennig iddynt ym mhob sioe.
Roedd Eric Davies, Ty Ddewi, Sir Benfro, Llywydd Clwb Colomennod Amrywiol Sioe Abertawe, a chynrychiolydd lleol ar y Gymdeithas Golomennod Cenedlaethol yn
dweud ei fod yn falch iawn bod Francis o'r diwedd wedi cael ei gydnabod gan y
Gymdeithas am ei wasanaeth hir dymor a'i ymroddiad i fyd y golomen sioe.
Dywedodd, "Ni roddir y gwobrau hyn yn aml ac nid ar chwarae bach y gwneir y penderfyniad i'w rhoi ond roedd yn hen bryd i Francis ei derbyn. Mae pawb ym myd y colomennod ac yn arbennig yng Nghlwb Colomennod Sioe Abertawe wrth eu bodd gyda'r gyda'r anrhydedd a dderbyniodd oddi wrth ei gymheiriaid.
Derbyniodd y wobr mewn cyfarfod o Gymdeithas Genedlaethol y Colomennod yn Rugby yn ddiweddar. Teithiodd Francis a Janet yno i dderbyn y dystysgrif. Yn ei ddull arferol, chwarae i lawr bwysigrwydd yr anrhydedd a wnaeth Francis ond roedd Janet wrth ei bodd gyda'r penderfyniad i gydnabod ymroddiad Francis i'w brif ddiddordeb dros y blynyddoedd.
"Rwyf wedi byw gydag ef am dros ddeugain mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw rwyf ar adegau wedi gorfod bodloni ar yr ail safle i'w adar! Pan fydd e'n paratoi i'r sioeau mawr byddai cystal iddo symud ei wely i lofft yr adar o gofio faint o amser mae'n treulio yno. Rwyf mor falch drosto. Mae'n haeddu'r clod. Efallai bydd e'n arafu tipyn nawr - ond rwy'n amau hynny!"
|