I gefnogi Rebecca Trehearn o'r Rhyl a Francesca Hughes o Allt Melyd teithiodd dau lond bws o'r cylch i lawr i'r stiwdios teledu yng Nghaerdydd. Perfformiodd y ddwy dair c芒n yr un, a hynny'n fyw i gyfeiliant band, gan adael canlyniad y gystadleuaeth yn nwylo'r gwylwyr. Wedi'r awr wyllt o fwrw pleidleisiau ff么n a thestun, cyhoeddwyd mai Rebecca oedd wedi mynd 芒 hi, ac fel rhan o'i gwobr bydd yn cael y cyfle i recordio CD yn stiwdios enwog Abbey Road yn Llundain. Bydd hithau a Francesca hefyd yn cael canu yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Fawrth 19 pan fydd Cymru yn chwarae eu g锚m rygbi dyngedfennol yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Bydd eu llwyddiant yn sicr o fod yn hwb fawr i'r ddwy i'r dyfodol ac roeddynt yn pwysleisio eu bod wedi mwynhau'r profiad o gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn fawr. Mae Rebecca yn gobeithio y bydd wedi cael rhan yn y sioe 'Alfie' yn y West End yn Llundain yn dilyn clyweliad, ac mae Francesca wedi ei derbyn i ddilyn cwrs gradd mewn perfformio yng Ngholeg Paul McCartney yn Lerpwl. Llongyfarchiadau fil i chi genod a phob dymuniad da yn eich gyrfaoedd. Gobeithio y cawn glywed am lawer mwy o lwyddiannau yn dod i'ch rhan yn y dyfodol. Roedd Lisa Haf Davies o Fynachlog-ddu yn Sir Benfro i fod i berfformio yn y rownd derfynol o Waw Ffactor hefyd, ond reodd hi'n s芒l ar y noson. Ewch i ddarllen ei hanes - y sbri a'r siom ar wefan Papur Bro Clebran.
|