Yn ystod y noson gwelsom a chlywsom eitemau gwerth chweil gan gr诺p roc o blith ein disgyblion a ch芒n gan Francesca Hughes a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth 'Waw Ffactor' ar S4C yn ddiweddar. Gwefreiddiwyd y gynulleidfa gan berfformiadau gan ddisgyblon sy'n cael gwersi mewn gweithdai wythnosol gan Dawns Gogledd Ddwyrain Cymru a Sarah Baldock o SB Entertainments. 'Roedd cyfraniad gwefreiddiol y gantores enwog Ann Atkinson yn wledd i'r glust. Cawsom gyfle hefyd i weld y Sgrin Sinema a Thaflunydd Data o'r radd flaenaf wrth i Tom Goddard, Artist Preswyl, roi portread o gymuned Theatr Elwy a rhoi rhagolwg i ni o'r prosiect celfyddyd digidol mae wedi ei gomisiynu i'w gwblhau. Cyflwynwyd tusw o flodau i Rosemary Jones, Dirprwy yr Ysgol, am ei dycnwch a'i phenderfyniad i gael y maen i'r wal a gweld Theatr Elwy yn realiti. Siaradodd Dave Phoenix ar ran Sir Ddinbych ar hanes y theatr, ei r么l yn 2005 a'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Soniwyd ymhellach gan Meurig Rees, Y Pennaeth, am y broses o ymgeisio am grantiau a diolchodd o waelod calon i'r holl noddwyr sydd wedi cyfrannu'n hael tuag at weld y freuddwyd o'r theatr newydd yn dod yn ffaith. Gwelwyd cyfraniad y gymuned i'r cyfanwaith gan Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli, John Owens. Soniodd ef am y partneriaethau gyda'r gymuned, yr Eglwys Gadeiriol a'r Ddinas Gerdd. Clowyd y noson gydag eitemau o'r Sioe Gerdd 'Amser Maith Ymlaen'. Noson wych ac agoriad teilwng iawn i Theatr Elwy. Amser Maith Ymlaen Cychwynwyd yr wythnos o ddathlu agoriad swyddogol Theatr Elwy gyda disgyblion Ysgol Glan Clwyd yn perfformio'r sioe gerdd 'Amser Maith Ymlaen' gan Caryl Parry Jones a Toni Llywelyn ar y nosweithiau Llun, Mawrth a Mercher, Mawrth 7 i 9. 'Roedd y sioe gerdd ei hun yn cychwyn yn y flwyddyn 2009 cyn teithio'n 么l mewn amser trwy Beiriant Amser Dr. Baglan a Hanna i'r blynyddoedd 1904, 1943 a'r 1950'au. Dyma ddigwyddodd i Siwan ac Aron wrth iddynt brofi anturiaethau brawychus a gwych yn y gorffennol. Yn anffodus, nid oeddent i brofi'r anturiaethau hyn hefo'i gilydd gan eu bod wedi eu gollwng mewn amseroedd gwahanol yn y gorffennol. 'Roedd yn anodd iawn iddynt i ddychwelyd i 2099 i dathlu gwrogaeth i'r unben Haman. Byddai Cymru'r dyfodol yn cael ei rheoli fel gwladwriaeth dotalitaraidd ac 'roedd hynny'n gwylltio'r Aron a Siwan ifanc gan eu bod 'eisiau gwneud gwahaniaeth'. 'Roeddent am wneud rhyddid yn flaenoriaeth a mwynhau bywyd. Cafwyd canmoliaeth uchel iawn i'r perfformiadau. Da iawn chi blant a diolch i chi am eich gwaith caled a gwaith caled y'ch hyfforddwyr hefyd. Ar y nosweithiau Gwener a Sadwrn, Mawrth 11 a 12, cafwyd dathliadau pellach wrth agor Theatr Elwy gyda chyngerdd wedi ei drefnu gan Bwyllgor Llanelwy, Dinas Cerdd ar y nos Wener a Noson Lawen ar y nos Sadwrn. Cofiwch - eich theatr chi ydi hi, defnyddiwch hi! Os am logi'r theatr ar gyfer cynnal gweithdai neu berfformiadau cysylltwch a'r Swyddfa Docynnau ar 01745 582611 am fwy o fanylion.
|