Roedd y profiad o fod yn Efrog Newydd yn un gwahanol iawn i fod yng Nghymru. Roedd yr olygfa o'r fferi yn 么l o Ynys Ellis yn gwneud i mi sylweddoli pa mor lwcus yr oeddwn i fod yn y Big Apple.Un o'r uchafbwyntiau mwyaf doniol oedd gweld Mrs Williams yn dawnsio ar hyd y ffordd tra roedd ceir yr heddlu yn disgwyl i groesi'r ffordd.
Un arall o'r uchafbwyntiau i mi'n bersonol oedd gweld Strawberry Fields a chartref John Lennon gerllaw. Roedd cyfarfod trigolion y ddinas yn brofiad od a phleserus ar yr un pryd. Maen nhw'n bobol ddiddorol iawn i siarad 芒 nhw.
Mae'n bleser cael edrych yn 么l ar y lluniau a hiraethu am fynd yn 么l rywbryd yn y dyfodol.
Helen Morris
Tra yn Efrog Newydd gwelais lawer o bethau gwych, ond y peth a fwyneais i fwyaf oedd yr olygfa o'r Empire State Building pan oedd hi'n nosi - roedd yn fythgofiadwy.
Peth arall oedd cael bwyta yn Planet Holywood - gwelsom luniau o bobol enwog ar y waliau - roedd pawb yn mwynhau. Canodd y gr诺p 'Benblwydd Hapus' i mi, Richard a Miss Evans.
Ar yr ochr addysgiadol, roedd ymweld ag Amgueddfa Treftadaeth Iddewig yn berthnasol i beth yr ydym yn ei astudio yn yr ysgol, ac felly roedd pawb yn rhoi sylw arbennig i'r hyn oedd i'w weld yno. Dywedodd rhai pobol mor lwcus oedden nhw i fod ar y daith, ac roeddwn i'n cytuno - diolch athrawon.
Rebecca Evans
Ar 么l gadael Ysgol Glan Clwyd yn gynnar iawn fore Iau, Mawrth 21, cychwynasom ni, 32 o ddisgyblion a 5 athro, ar daith anhygoel.
Wedi teithio am rai oriau fe gyrhaeddom ni faes awyr Newark yn New Jersey, a chychwyn dros yr afon i'r ynys fechan o Manhattan. Er ei bod hi'n niwlog ac yn glawio roedd yr olygfa a'n croesawodd ni'n wefreiddiol: ein golwg gyntaf o'r ddinas enwog a'r Empire State Building yn sefyll allan wedi ei oleuo'n felyn, coch a glas!
Roedd y pum niwrnod canlynol y rhai mwyaf prysur, mwyaf cyffrous a mwyaf bythgofiadwy erioed. Llwyddom ni i wneud cymaint yn yr amser byr yr oeddem ni yno ac mae cymaint o uchafbwyntiau y byddaf yn eu cofio ar hyd fy oes.
Aethom ni i frig yr Empire State Building, i Planet Holywood yn Times Square, i weld y sioe Chicago, sglefrio i芒 yng Nghanolfan Rockerfeller, ac yn fwy pwysig na dim i siopa ar Fifth Avenue!!
Profiad arbennig yn wir. Byddaf yn siwr o gofio'r daith fel cyfnod cyffrous, gwerthfawr a bythgofiadwy.
Carys Royles
Cyn mynd yno roeddwn yn coleddu'r syniad fod Efrog Newydd yn lle hynod o beryglus, budr ac y byddai rhywun yn ymosod arnoch pe baen nhw'n eich gweld yn edrych i fyny ar yr adeiladau hynod o uchel.
Wel erbyn hyn rydw i yn 么l a hynny heb gael fy mygio ac wedi fy ngwefreiddio gyda'r ddinas brysur yma sydd wedi dioddef cymaint yn ddiweddar.
Credaf mai'r hyn a'm cyfareddodd fwyaf oedd sefyll ar ben yr Empire State Building, sy'n 102 o loriau o uchder, wrth ac wedi iddi nosi, gan edrych i lawr ar oleuadau yr adeiladau uchel eraill. Roedd fel pe byddech yn edrych i lawr ar y ddinas o awyren!
Hefyd roeddech yn gweld y ddau belydr uchel o oleuni yn pefrio yn y tywyllwch a oedd yn dynodi lle'r arferai dau dwr Canolfan Fasnach y Byd sefyll.
Wrth ymweld 芒 Ground Zero ei hun, a deall fod 16 o gyrff wedi eu codi o'r adfeilion y diwrnod hwnnw, mae'n anodd credu fod dyn yn gallu dymuno'r fath ddistryw ar ei gyd-ddyn fel a ddigwyddodd ar Fedi 11.
Diddorol oedd ymweld 芒 Harlem, sef yr ardal lle mae'r mwyafrif helaeth o'r boblogaeth yn dywyll eu croen. Doedd dim o'r cyfoeth a'r adeiladau talsyth yma ond er hynny roedd mwy o naws gymdogol i'w deimlo yno.
Difyr oedd gweld y ganolfan, sydd bellach yn sinema, lle y cafodd pobol fel Little Richard eu darganfod. Mae yna doughnuts bendigedig yno hefyd!
Ar nodyn ysgafnach, mwynheais y daith ar y fferi o amgylch y Statue of Liberty ac ymlaen i Ynys Ellis lle roedd y Ganolfan Ymfudo i'r UDA tan y 1950au. Roeddwn i'n un o'r ychydig rai oedd yn ddigon dewr i aros ar y dec yng nghanol y gwynt! Mae'n dda nad oeddwn i'n gwisgo wig ydi'r unig beth ddyweda i!
Gan fy mod wrth fy modd yn siopa a bwyta, roedd Efrog Newydd yn nefoedd! Mwynheais bob eiliad ar Fifth Avenue yn ymweld 芒 Bloomingdales a Macey's a cheisio peidio 芒 gwario gormod!
Profiad newydd arall i mi oedd mynd allan i'r Deli i brynu brecwast - bagels wedi eu tostio ac unrhyw beth dan haul arnyn nhw - hyd yn oed eog wedi ei fygu, fy ffefryn! Roedd llawer mwy i ryfeddu ato ond tawaf i eraill gael cyfle!
Awen Roberts