Am y tro cyntaf ers dros deugain mlynedd, nid wyf wedi bod yn pluo twrcwns at y Nadolig eleni. Llynedd roedd gennym 7,000 i'w pluo! Er hynny, amser prysur yw'r Nadolig. Yna mis tawel yn yr ardd ond mae digon i'w wneud, sech hynny. Codwch y planhigion mewn potiau oddi ar y llawr ac allan o'u soseri rhag iddynt rewi, a dodwch nhw mewn llecyn cysgodol i gymryd mantais o'r ychydig o heulwen sydd ar gael. Ond rhaid eu cysgodi o'r gwyntoedd oer. Os yw'r planhigion braidd yn dyner, gorchuddiwch nhw mewn 'bubble wrap' neu y cnu-ffug, ond rhaid clymu'r rhain yn ofalus neu fe 芒nt gyda'r gwynt. Cyweiriwch y ffensys, pyst a threlis. Dyma'r amser i beintio'r waliau a tu 么l i'r dringwyr, yna eu clymu yn iawn wrth eu rhoi yn 么l. Rhaid clymu coed, llwyni, rhosod, brocoli a bresych Brwsel at byst os yw'r gwynt yn eu hysgwyd. Mae hen sanau marched yn wych at y gwaith yma. Rhowch fin ar gyllell y torrwr porfa a rhowch archwiliad i'r peiriannau. Mae pob llyfr garddio yn dweud wrthym am wag谩u bob mymryn o betrol allan o'r peiriant dros y gaeaf am ei fod yn hel dwr o'r awyrgylch - ond nid ydynt yn dweud wrthych beth i'w wneud efo'r petrol wast. Mae'n beth peryg ofnadwy, a'r peth olaf ydych eisiau ydyw rhyw hen boteli hanner llawn o hylif dienw o gwmpas y sied. Archebwch eich hadau, tatws H芒d setiau nionod ac unrhyw beth arall sydd yn edrych mor ardderchog yn eich catalog. Os yw'r gwyntoedd oer yn parhau i wneud difrod i'r rhosod neu'r llwyni, tociwch nhw at eu hanner. Tociwch y fuchsias at 1/3. Di-heintiwch botiau a bocsys (Jeyes Fluid ne Citrose.) Taflwch lygad dros y ffrwythau yn y st么r rhag ofn bod rhai yn pydru. Mewn ystafell-haul neu d欧 gwydr, neu unrhyw fan dan do, casglwch bob deilen a phob blodyn sydd wedi marw a'u dodi yn y t芒n neu yn y swp compost er mwyn cadw ffwng draw. Am yr un rheswm dodwch y mymryn lleiaf o dd诺r iddynt. Gofalwch chwistrellu yn erbyn yr aphids a'r pryfed gwynion. Newidiwch eich ffwng-laddwyr yn aml. Maent yn datblygu y gallu i wrthsefyll y chwistrellydd os ydych yn defnyddio yr un bob tro. Gellwch hau, mewn t欧 gwydr di-wres, bys-p锚r, nionod y Gwanwyn, ffa, letys a phys a tu allan -ffa, pys, radish a nionod y Gwanwyn - pryd? Unwaith -y gwelwch y chwyn yn blaguro!Blwyddyn Newydd Dda i chwi oll. Bryn Williams
|