Hanner ffordd rhwng Brynford a Phantasaph mae pentre bychan o'r enw Naid y March. Mae'n enw od iawn a does neb yn sicr sut y cafodd ei enw, ond mae pawb yn credu ei fod rhywbeth i'w wneud 芒'r ddwy garreg sydd wrth ochr y ffordd. Cerrig calch tua llathen o daldra ydynt gyda 25 troedfedd rhyngddynt, a mae'n amlwg na fu c欧n na morthwyl ar eu cyfyl erioed. Mae na bwll bas, tua 6 troedfedd ar draws, yn y canol rhwng y ddwy garreg, sy'n awgrymu fod rhywun efallai wedi dechrau suddo siafft yno ar un adeg.
Gwyddom i sicrwydd fod yr enw yn mynd yn 么l cyn belled 芒 1613, oherwydd fe welir yr enw 'Horse's Leap' ar fap o eiddo perchnogion Mynydd Helygain. Gelwir hwy yn Naid y March gan Thomas Pennant yn ei lyfr 'History of the parishes of Whiteford and Holywell [1796]' ac fe dybia eu bod yn perthyn i'r cyfnod Brutanaidd; ond cred eraill eu bod yn h欧n na hynny ac wedi eu gosod yn ystod yr oes Efydd.
Y cwestiwn sy'n cael ei ofyn yn fynych yw 'Pam y gelwir y ddwy garreg yn Naid y March?'. Yn ei lyfr 'Gleanings of the Histories of Holywell [1831]' dywed yr awdur Poole fod y sgweier Thomas ap Harri, a oedd yn byw yn y ffermdy Perth-y-Maen ger Trelogan, wedi neidio gyda'i geffyl rhwng y ddwy garreg rhyw bum can mlynedd yn 么l. Yn bersonol, derbyniaf hyn, ond credaf fod yr enw Naid y March yn llawer h欧n na hynny. Yn yr hen amser, defnyddid mesurau fel modfedd, troedfedd, cam, gwrhyd a thafliad-carreg i fesur hyd pethau gan bobl yn eu bywyd beunyddiol. Roedd yn naturiol felly iddynt ddefnyddio 'naid march' i ddynodi y pellter rhwng y ddwy garreg. Ymddengys mai camu y pellter rhwng y ddwy wnaeth Pennant oherwydd rhydd y mesur fel 'tua 22 troedfedd'.
Ers sawl blwyddyn bellach, mae Bwrdd Ymgynghorol Helygain [Halkyn JCB] wedi bod yn ceisio edrych ar 么l buddiannau'r comin drwy gyfarfod rhyw bedair gwaith yn y flwyddyn. Yn un cyfarfod, derbyniwyd llythyr gan Norma Walmsley o'r pentre yn cwyno am gyflwr y ddwy garreg, oherwydd yr oeddent wedi eu gorchuddio gan chwyn a phrysgoed. Yn dilyn hyn, ffurfiwyd gweithgor bychan, gyda Gwyn Williams, cyn lyfrgellydd y Sir, yn geffyl blaen arno, er mwyn ceisio adfer a diogelu'r cerrig.
Drwy gymorth Cadwyn Clwyd, cafwyd arian i wneud y gwaith angenrheidiol gan Cemex, sef perchnogion chwarel Pant-y-Pwll D诺r. Gwnaed ffens addurnedig gan y gof Richard Jones, Dyserth, i ddiogelu'r cerrig ac fe welir cerfluniau arni sy'n adlewyrchu cefndir y fro. Yn ogystal, gosodwyd tabled wrth ochr y ffens sy'n rhoddi hanes traddodiadol y ddwy garreg. Ar ddydd Sadwrn, Awst 16 2008, fe ddathlwyd gorffen y gwaith drwy gynnal cyfarfod ar y safle a bedyddio'r tabled yn y ffordd arferol. Yn dilyn hynny, cafwyd barbiciw bendigedig a llawer o hwyl yng ngardd fferm Naid y March, sydd o fewn tafliad carreg i'r cerrig enwog.