Cyhoeddwyd y llyfr gan gwmni Foyles, Llundain rywbryd yn nechrau tridegau y ganrif ddiwethaf. Mewn pennod sy'n dwyn y teitl 'Bore Dydd Nadolig' mae'r awdur yn hel atgofion ac yn s么n am stori a adroddai ei fam am ei phlentyndod hi ei hun. Bryd hynny, roedd hi'n byw gyda'i nain a'i thaid mewn tŷ^ o'r enw Rhos Mari, yng ngwaelod y pentref, heb fod ymhell oddi wrth y fynwent ac eglwys y plwyf. Rhos y Mynaich oedd yr enw cyffredin ar y rhan yma o'r pentref, a chredai'r trigolion fod y tiroedd yn perthyn, ar un cyfnod, i'r mynachod. Dywedid bod twnnel tanddaearol yn arwain o Ros Mari i'r eglwys ei hun. Yn 么l mam Mr. David Evans, byddai'r hen bobl yn arfer dweud bod y gwenyn yn deffro o'u cwsg gaeafol ac yn dechrau canu mawl ar fore dydd Nadolig. Un Nadolig, yn ystod gaeaf a fu'n eithriadol o fwyn, cododd y teulu'n blygeiniol i fynd gyda'u cymdogion i ardd gyfagos i glywed y gwenyn yn 'canu mawl'. Ond wrth iddynt sefyll yng ngolau hen lantern gorn yn ymyl y cwch gwenyn nid s诺n canu mawl y gwenyn a ddaeth i'w clyw, ond math o siffrwd o'r gwrych cyfagos. Yna, er mawr syndod iddynt, gwelsant aderyn yn hedfan o ganol y gwrych. Wedi iddynt graffu arno, yr hyn a welsant yng ngolau'r lamp, oedd nyth bronfraith a phedwar o wyau gwyrddlas ynddo! Heddiw, a phawb ohonom dan yr argraff bod yr hinsawdd yn newid, a bod ein hafau'n mynd yn boethach a'n gaeafau'n mynd yn fwynach, mae'n ddiddorol clywed am aeaf yn y gorffennol oedd cyn fwyned, os nad yn fwynach nag unrhyw beth cyfoes. 'Gaeaf glas' oedd enw'r hen bobl ar aeaf o'r fath. Tybed a fydd gaeaf 2003-2004 yn aeaf glas a tybed a welwn ni wyau mewn nyth bronfraith ar Ragfyr 25 eleni? Diolchir i Mrs. Gwyneth Lewis, Ffordd Hiraddug, am gael benthyg y gyfrol ddiddorol hon.
|