Pan agorodd Mr Albert Gubay ei archfarchnad ym Mhrestatyn yn gynnar yn 1960au, cychwynnodd chwyldro sy'n parhau hyd heddiw.
Yn y dyddiau hynny, dim ond yn yr Unol Daleithiau y ceid y fath siopau, ac archfarchnad Mr Gubay oedd un o'r cyntaf i'w hagor ar Ynysoedd Prydain.
A r诺an, maen nhw'n dweud bod archfarchnad arall yn dod i Brestatyn! Nid bod y dref, fel y mae hi r诺an, yn amddifad o archfarchnadoedd. Eisoes mae yno ddwy. A does dim prinder yn nalgylch Y Glannau chwaith. Maen nhw'n tyfu fel madarch o'n cwmpas ym mhob man.
A lle mae darllenwyr Y Glannau yn sefyll ar y mater hwn, tybed? Yn daer o blaid? Yn chwyrn yn erbyn? Byddai'n ddiddorol iawn cael gwybod.
Beth bynnag yw eich barn, mae'r dadleuon o'u plaid ac yn eu herbyn yn llu. Dyma rai ohonyn nhw:
Mae eu prisiau yn gystadleuol iawn
Ond mae eraill yn honni mai dim ond ar draul ffermwyr a'r bobl eraill sy'n cyflenwi nwyddau a bwydydd y gall yr archfarchnadoedd gadw eu prisiau'n isel. Ac mae honiadau bod rhai o'r cwmn茂au mwyaf yn manteisio ar lafur rhad gweithwyr yn y gwledydd tlotaf er mwyn cynhyrchu nwyddau rhad. Ond mae pawb ohonon ni'n hoffi cael bargen!
Maen nhw'n gyfleus
Ond dim ond i bobl sydd 芒 char [neu sy'n gallu fforddio tacsi] y maen nhw'n hwylus. Os nad oes modd i chi deithio mewn car a chithau'n byw mewn pentref lle mae'r siop fara, y cigydd a'r siop groser lleol wedi cau, mae hwylustod yr archfarchnad yn rhywbeth sy'n eiddo i bobl eraill yn unig. Ond, meddai rhywun arall, mae rhai o'r archfarchnadoedd yn cynnig gwasanaeth danfon bwyd!
Mae'n nhw'n cynnig nwyddau o salon uchel a digon o ddewis
Ond mewn gwirionedd, oes angen cymaint o ddewis ar y rhan fwyaf ohonon ni? Ydi pawb eisiau dewis o ddwsinau o fathau o gawsiau, er enghraifft? Ydi o'n gwneud synnwyr i gario mefus o Affrica, pysgod o Chile ayyb, dim ond er mwyn i ni gael dewis? A beth yw'r pris i'r amgylchedd - gyda lor茂au ac awyrennau yn cludo nwyddau ar hyd ac ar led gan lygru'r atmosffer a chyfrannu at gynhesu byd-eang. Pam, hefyd, nad oes mwy o gynnyrch lleol ar gael yn yr archfarchnadoedd? A pham, os oes cynnyrch lleol ar gael, y mae o'n costio mwy na phethau sydd wedi'u cario o ben draw byd?
Mae'n nhw'n dod 芒 swyddi a statws [a swyddi] i'w canlyn
Ond os oes archfarchnad ym mhob tref beth ydi gwerth y statws wedyn? A swyddi - oes ar un olwg, ond mae tystiolaeth sy'n awgrymu'n groes i hynny. Gwnaed un arolwg a ddangosodd bod 50 o siopau bychan yn cau bob wythnos rhwng 1997 a 2002, a hynny oherwydd effaith yr archfarchnadoedd. Yn sicr, mae dyfodiad archfarchnad i dref yn cael effaith pendant ar siopau eraill, er gwell neu er gwaeth.
Ond yr ofn mwyaf un mewn perthynas 芒'r archfarchnadoedd yw'r ofn bod ganddyn nhw ormod o rym. Oherwydd eu cyfoeth dihysbydd does neb yn gallu cystadlu gyda nhw pan fydd tiroedd ar werth ac ni all Awdurdodau Lleol fforddio ymladd achosion cyfreithiol costus i geisio sefyll yn eu ffordd pan fyddan nhw'n derbyn cais cynllunio gan y siopau hyn. Yn wir, mae rhai'n poeni bod y cwmn茂au mwyaf oll mor bwerus fel eu bod nhw'n drech na llywodraethau a bod rhai o lywodraethau mwyaf y byd, gan gynnwys llywodraeth Llundain, yn gorfod ildio iddyn nhw.
Ond dim ond amser a ddengys beth fydd effaith y siop newydd ar Brestatyn!