Dydd Sadwrn, Mai 23
Cyfarfod ym Mae Caerdydd am 7.30 y bore ar Fai 23 a chyfarfod y criw am y tro cyntaf. Beicio'n hamddenol wedyn drwy strydoedd gweddol wag ar fore Sadwrn a chyrraedd llwybr beics hyd lan Afon Taf, a hyd ffyrdd cefn i Ferthyr Tudful i gael cinio. Aros mewn hostel a chwarae gemau i ddod i 'nabod y criw yn well.
Dydd Sul, Mai 24
Bore bendigedig o braf wrth gronfa d诺r Tal-y-bont, ger Aberhonddu, a hanner can milltir o daith i Raeadr - hyd waelodion Bannau Brycheiniog tua Thalgarth, y Felindre a Llanfilo. Hyd hen reilffyrdd a lonydd coed braf hyd at Y Clas-ar-Wy, a chinio wrth ochr yr afon. Dringo wedyn am 16 milltir i gyrraedd Talgarth, Llanelwedd, Cwm Elan a Rhaeadr. Swper a gwely cynnar er mwyn medru wynebu taith galed i Garno drannoeth.
Dydd Llun, Mai 25
Nid oeddwn yn edrych ymlaen at y diwrnod yma - bu'n daith galed ddwy flynedd yn 么l - ond mwynhaeaid y diwrnod eleni. Gadael dyffryn Afon Wysg a gwynebu Canolbarth Cymru. Cinio mewn coedwig a dringo wedyn i ben uchaf y L么n Las - lle mae'r arwyddbost yn nodi'r man uchaf - tua 510 metr ar ben Pumlumon. Golygfa o fynyddoedd Eryri. Tua 12 milltir i lawr allt yr holl ffordd i Fachynlleth a thros y bont newydd dros Afon Dyfi i Gorris ac aros yn nhafarn Y Fraich Goch yn barod am lond bol o fwyd, a dyna a gawsom, pryd ardderchog, ar 么l byw ar dd诺r, brechdanau, ffrwythau sych a bananas.
Dydd Mawrth, Mai 26
O Gorris i Dremadog. Cychwyn i fyny clamp o allt i fyny Mynydd Ceiswyn i'r ffordd fawr ger Minffordd wrth droed Cader Idris. Trosodd i Ddolgellau, aros dipyn ar y Marian, croesi Afon Mawddach a chael l么n wastad braf yr holl ffordd i'r Bermo - gwynt cryf o'r m么r i'n hwynebau. Aros ar lan y m么r i gael cinio, teithio drwy Dal-y-bont, Dyffryn Ardudwy a Harlech ac i fyny am Gwm Bychan a'r enwau'n perarogli - Eisingrug a Glyn Cywarch. Talsarnau, Penrhyndeudraeth a Minffordd, dros y Cob i Borthmadog, Tremadog a Golan. Aros mewn hostel braf.
Dydd Mercher, Mai 27
Glaw fel o grwc! Gorfod gwisgo'n dillad glaw am y tro cyntaf (cyn bwysau i'w cario ar y beic). I Ddolbenmaen, heibio ffermydd Ymwlch Bach a'r Gell, ger Cricieth, yna i lawr at lan y m么r, a hithau'n dal i chwythu a bwrw glaw. Heibio Cae Llo Brith a heibio bedd Lloyd George, y L么n Goed a Chapel y Beirdd i Fryncir, hyd L么n Eifion i dref Caernarfon. Yna hyd ffyrdd cefn Ynys M么n yr holl ffordd i Gaergybi. Cael swper da a thystysgrif hardd i gofio am y daith.
Diolch am bob cyfraniad a gafwyd. Mae'r swm a godwyd i BOBATH gennyf erbyn hyn yn 拢1500 ond nid wyf wedi gorffen hel yr addewidion. Diolch yn fawr i bawb.