成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glannau
Rhai o ddisgyblion cyntaf (1956) Ysgol Glan Clwyd gyda Mr Norman Williams Aduniad o gyn-ddisgyblion cyntaf
Rhagfyr 2006
Daeth t卯m o Jonesiaid at ei gilydd i drefnu aduniad i ddisgyblion cyntaf ysgol Glan Clwyd wrth i'r ysgol ddathlu hanner can mlynedd eleni.
Gyda Ysgol Glan Clwyd yn dathlu hanner can mlwyddiant eleni daeth criw bach ynghyd i drefnu aduniad i ddisgyblion cyntaf yr ysgol. Pwyllgor y Jonsiaid ddaeth at ei gilydd. Marian Jones, Heulwen Jones, Hywel Jones, Lilian Jones, Paula Jones ac Alun Jones. Ai dyma lle cafwyd y syniad o gael cymaint o'r Jonsiaid mewn un lle? Penderfynwyd rhoi gwahoddiad i'r ddwy flynedd gyntaf sef y rhai a ddechreuodd yn yr ysgol yn 1956 a 1957. Rhoddwyd gwahoddaid hefyd i'r cyn athrawon.

Ar Orffennaf y 7fed yn y Kinmel Manor, Abergele, daeth trigain o gyn-ddisgyblion ynghyd i hel atgofion, sgwrsio am hynt a helynt pawb ac i graffu ar hen luniau o'r cyfnod. Braf oedd cael cwmni Mr Norman Williams, dirprwy brifathro cyntaf yr ysgol. Ac yntau yn ei nawdegau erbyn hyn, roedd mor sionc ag erioed, yn cofio enwau pawb ac yn adnabod llawer o'r disgyblion yn y lluniau.

Roedd hi'n bleser cael cwmni Mr Aled Jones a'i wraig, Gwawr, a hwythau'n cofio enwau yn rhyfeddol. Yn bresennol hefyd roedd Miss Mair Richards, cyn athrawes yn Ysgol Dewi Sant, Rhyl. Roedd hi wedi dysgu sawl un o'r cyn ddisgyblion cyn iddynt fynychu Ysgol Glan Clwyd! Roedd Cwmni Radio Greenfield yno o Gaerdydd ar ran y 成人论坛, yn holi ac yn recordio'r atgofion. Darlledwyd y rhaglen yn gynharach ym mis Tachwedd.

Yn anffodus nid oedd Mr Haydn Thomas, y prifathro cyntaf, yn gallu ymuno yn yr aduniad gan ei fod ar ei wyliau yn yr Eidal. Ac yntau'n byw yn y Feni, Mynwy, erbyn hyn, ysgrifennodd lythyr i gyfarch pawb gan ymddiheurio nad oedd yn gallu mynychu'r aduniad. "Onibai am y gwyliau mi fyddwn yno."

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, roedd dau gyn-ddisgybl, Hywel Jones a Robin Bateman, wedi trefnu i gyfarfod Mr Thomas ar gae'r eisteddfod. Treuliwyd dros awr yn ei gwmni a phan ddangoswyd lluniau'r aduniad iddo, roedd yn adnabod y mwyafrrif ac yn gallu dwyn i gof ambell i hanesyn diddorol am rai o'r unigolion!

Daeth y noson i ben ymhell wedi hanner nos ac wrth i bawb adael roedd yna deimlad o falchder mai nhw oedd "guinea pigs" ac arloeswyr addysg uwchradd Gymraeg drwy Gymru gyfan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy