Casglodd Eleri symiau enfawr at yr elusen, ers i Aled Jones, y canwr enwog ddod yn noddwr i D欧 Gobaith.
Wedi hyn ffurfiwyd gr诺p o "Ffrindiau Aled" i gasglu arian at yr elusen ac Eleri yn un ohonynt.
Bu yn edmygydd o Aled ers yn ifanc, pan gyfarfu ag ef, pan oedd yn canu yng Ngh么r y Gadeirlan ym Mangor ugain mlynedd yn 么l.
Cyfarfod ag ef eto ym mis Mawrth diwethaf ar 么l y Cyngerdd yn Neuadd y Philarmonic yn Lerpwl.
Casglodd Eleri 拢2,100 mewn ymdrech a drefnodd yng Nghastell Bodelwyddan ym Medi diwethaf a 拢1,600 mewn Noson Nadoligaidd a drefnodd gyda rhai eraill yn y Rhyl.
Mae hi'n gobeithio cyfarfod ag Aled Jones eto pan fydd yn canu yn Theatr y Pafiliwn yn Y Rhyl ar Fawrth 27.
Bydd yn ymuno hefo "Ffrindiau Aled at T欧 Gobaith" ac yn casglu arian at yr elusen yn y Cyngerdd yno.
Fe gasglwyd 拢12,000 gan y gr诺p yn y flwyddyn ddiwethaf - digon i dalu am therapi trwy gerddoriaeth i'r plant yn yr hosbis am flwyddyn.
Trefnir Ymdrech arall gan Eleri ym Mhlas Teg ger Yr Wyddgrug ar Mehefin 2 tuag at yr elusen.
Dymunwn bob llwyddiant i'w hymdrechion i godi arian at achos mor deilwng.
Nyrs yw Eleri yn Ysbyty Prestatyn ac mae ei phriod yn nyrsio hefyd yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae ganddynt ddau o blant, sy'n ddisgyblion yn Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl, Aled a Tesni.
Mae T欧 Croeso angen tair miliwn a hanner o bunnau i gyflawni'r gwaith pwysig a wnant bob blwyddyn.
Daw 3% o'r arian oddi wrth y Cynulliad ond mae'n rhaid i'r 97% gael ei godi gan wirfoddolwyr Ymroddgar fel Eleri.
|