Maes parcio Gwaunysgor oedd y man cychwyn ar fore hyfryd o ddiwedd haf. Cyn cychwyn cerdded treuliwyd ychydig funudau yn coffau'r diweddar Phillip Jones, Y Rhyl a oedd yn arfer a cherdded gyda ni. Trist oedd meddwl na chawn ei gwmni hynaws eto. Aeth y daith 芒 ni i'r Dwyrain, ar hyd y l么n geffylau sy'n mynd ar hyd y gefnen, nes i ni gyrraedd y mast teledu sy'n gwasanaethu tref Prestatyn. Ymlaen wedyn at fast cyfathrebu'r Heddlu cyn mynd dros y gamfa a chychwyn ar draws y caeau gan werthfawrogi'r golygfeydd bendigedig oedd o'n cwmpas. Roedd blodau diddorol i'w hastudio yn y gwrychoedd ac ar lawr daear, a rhai o arbenigwyr y grwp yn eu helfen yn goleuo eraill ohonom sydd, er ein bod yn awyddus i ddysgu, yn bur anwybodus am ryfeddodau byd natur. Wrth gerdded i lawr y bryn yn ymyl y coed ger y Gelli Aur (Gwrgle ar lafar yn lleol) cafwyd cyfle i s么n am beth o hanes y teulu Morgan a fu'n byw yno, teulu a blediodd ochr y Frenhiniaeth yn y Rhyfel Cartref. Dywedir bod brwydr fawr ym Mhant y Coed gerllaw, a bod ysgerbydau a phenglogau wedi'u darganfod pan gai'r tir ei droi yn yr amser gynt. Er bod coed yn cuddio'r fangre erbyn hyn, mae hen goel yn yr ardal yn honni y gellir clywed s么n clinddarach cleddyfau yn dod o'r cyfeiriad hwn ar nosweithiau tywyll yn y gaeaf. Wrth drugaredd, roedd pethau'n dawel ac ymddangos yn heddychlon iawn wrth i ni gerdded heibio i'r fan, ond byddai'n ddiddorol gwybod beth fyddai barn y teulu Morgan pe baent yn gwybod bod perchnogion presennol eu ty yn cynnig cyfleusterau Gwely a Brecwast i dwristiaid! Ar 么l hynny, roedd y daith yn mynd 芒 ni ar i fyny, i gyfeiriad llwybr y Gop, nes i ni gyrraedd fferm Cam Ychain. Mae hwn eto yn lle sydd 芒 hanes iddo, ac yn union fel Gwaunysgor a'r Gelli Aur, caiff ei grybwyll yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book) a gomisiynwyd gan y Normaniaid yn 1086. Yn 么l yn y pentref, ac wrth aros yn ymyl Eglwys y Plwyf i gael hoe cyn troi am adref, siomedig oedd gweld arwydd uniaith Saesneg y Church in Wales wrth borth y fynwent, a hynny mewn ardal lle bu'r Gymraeg yn iaith mwyafrif y boblogaeth am ganrifoedd.
|