Y Sadwrn cyntaf daeth y Cadi Ha' yn llawn direidi i arwain dawnsio lliwgar drwy'r Stryd i erddi'r T诺r, cyn symud ymlaen i dir Abaty Dinas Basin Maesglas ac yna Caerwys. Daeth yr wyl flynyddol i ben mewn Twmpath yn Yr Wyddgrug. Pwy oedd o Cadi 'ma tybed? Dywed Geiriadur Prifysgol Cymru wrthym mai ffurf anwes yw Cadi ar Catrin. Hen ferch o ddyn, busnesgi, ymyrrwr; un o'r dawnswyr haf gynt wedi gwisgo feI merch. Un o'r cymeriadau traddodiadol Fe ychwanega Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru mai un o'r cymeriadau traddodiadol ydoedd a gymerai ran yn nathliadau Calan Mai yng ngogledd ddwyrain Cymru pan gludid cangen haf o gwmpas yr ardal gan ddawnswyr. Yn aml iawn, dyn ydoedd 芒'i wyneb wedi ei bardduo yn gwisgo c么t dyn a phais merch! Wrth gwrs, ar lafar yn y gogledd ers y 19eg, gelwir rhywun merchetaidd yn Gadi Ffan. 'Steddfota Ar yr ail Sadwrn cafwyd deuddeng awr o 'steddfota gwefreiddiol. Llongyfarchiadau mawr i Dr. Aled Lloyd Davies, Yr Wyddgrug am ennill y Gadair, ac i Catrin Lyall Glan Clwyd a Christopher Griffiths, Caerwys am ennill Medalau Ll锚n yr Ifanc eleni. Yna, ar ddydd Sul y 12fed o Fehefin, daeth y dathliadau i ben yn hwyl y Jambori a'r Gymanfa Ganu. 'Hwyl fis Mai a chroeso fis Mehefin!'
|