Gyrru o Lundain i Cameroon mewn tua mis - dyna be fyddwn ni'n ei wneud tra fyddwch chi yn paratoi ar gyfer gwallgofrwydd y Nadolig. Gwallgofrwydd o fath hollol wahanol ydi gyrru drwy Orllewin Affrica mewn car hollol anaddas - car gyriant llaw chwith, efo injan llai na 1 litr!
Sian Davies o Ddinbych a Gareth Rogers o'r Rhyl ydan ni, a Gareth gafodd y syniad wedi gweld safel we 'The Adventurists'. Nhw ydi trefnwyr y daith - yr 'Africa Rally' - ac fe fydd yn agos at gant o geir yn dechrau'r daith yr un pryd 芒 ni ar y 13ed o Ragfyr. Wedi hynny, byddwn ar ein pennau ein hunain, nes i ni gyrraedd Limbe yn Cameroon erbyn y 15fed o Ionawr am barti!
Bu raid chwilio a chwilio cyn dod o hyd i gar priodol, ac fe gawsom ni lwc ychydig wythnosau yn 么l, a siwrne i fyny i Swydd Efrog i n么l y Renault 5 bach fydd yn mynd 芒 ni ar y daith o dros 6000 o filltiroedd.
Mae 'na ddau brif bwrpas i'r daith - y cyntaf yw i gael antur, a'r ail (yr un pwysicaf) yw i gasglu arian ar gyfer gwahanol elusennau. Mae gan y trefnwyr dair elusen swyddogol ar gyfer y rali yma, ac rydym ni wedi dewis cefnogi 'Send a cow', elusen sy'n rhoi cymorth i gymunedau drwy amaethyddiaeth. Maent yn defnyddio'r pres sy'n cael ei godi i roi hyfforddiant, da byw, hadau a chymorth i bobl yng ngogledd Cameroon a bydd hyn yn eu cynorthwyo i ddod dros anawsterau a gwneud y mwya o'r tir a'r adnoddau sydd ganddynt yn barod. Gyda'n cymorth ni, gall teuluoedd drawsnewid eu tir, a gweithio efo'i gilydd fel cymuned fel bo pawb yn elwa. Am fwy o wybodaeth cewch fynd i wefan yr elusen:
|