Ar noson oer a gwlyb, Mai 4, 2004 dadorchuddiwyd cofeb ar garreg er cof am Thomas Pennant, y naturiaethwr a'r hynafiaethwr llengar arbennig o Blas Downing gerllaw. Y g诺r gwadd er anrhydedd, David Schwarz o Dreffynnon, a ddadorchuddiodd y gofeb. Y mae'r gofeb o farmor du wedi ei gosod ar galchfaen yn ymyl gi芒t yr Ysgol. Y mae'r gofeb yn cwblhau ymdrech arbennig gan y Grwp Pennant lleol i fawrygu'r g诺r llengar a 'sgrifennodd lyfrau - ymysg y rhain "Taith trwy Gymru", A tour of Wales, yw'r mwyaf nodedig. Ganwyd a magwyd ef ym Mhlas Downing. Cafodd ei addysg gynnar yn Wrecsam ac oddi yno aeth i Goleg y Frenhines Rhydychen. Y mae rhai o lwybrau'r fro wedi eu henwi ar ei 么1 a chynhelir darlith flynyddol. Cafwyd peth o'i hanes gan y Dr. Goronwy Wynne ar y teledu yn ddiweddar ynghyd 芒 hanes Maen Achwyfan a'r Gop Trelawnyd. Soniodd hefyd am Moses Griffith ei gyfaill ac arlunydd penigamp o Trygarn, Sarn Mellteyrn, Ll欧n, Gwynedd.
|