成人论坛

Explore the 成人论坛
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

成人论坛 Homepage
成人论坛 Cymru
成人论坛 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

成人论坛 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Glannau
Ffion Haf Roberts Ein pobl ifanc yn cyfrannu i'r cyfryngau
Tachwedd 2004
Mae rhai o ieuenctid y gogledd ddwyrain yn cyfrannu i'r cyfryngau - rhai ar y sgrin a'r radio ac eraill tu n么l y camer芒u. Dyma hanes bedwar ohonyn nhw.
Ffion Haf Roberts, Prestatyn
Bydd Ffion Haf Roberts, Prestatyn yn ymddangos yn rhaglen S4C A470 sy'n dilyn gr诺p o bobl ieuanc o Rhyl ar drip i Gaerdydd.

Cyn-ddisgybl o Ysgol y Llys ac Ysgol Glan Clwyd ydy Ffion ac ar hyn o bryd mae'n un o s锚r Rownd a Rownd ar S4C ac hefyd fe'i gwelwyd ar Slush.

Mae'n symud i Gaerdydd ac yn falch iawn o gael rhannau mewn dwy raglen deledu. "Rydw i'n lwcus iawn i gael fy newis i'r ddwy ran. Cefais alwad ff么n, wedi imi orffen fy nghwrs prifysgol yn ystod yr haf, yn cadarnhau fy mod wedi fy newis," meddai.

Yn Rownd a Rownd chwarae rhan Rhian ydw i. Dydy Rhian yn malio dim am neb na dim. Mae'n mynd i goleg ble mae'n ffraeo gyda'i ffrind Becca (Lois Angharad) ac fe gewch weld os ydy'n gorfodi Becca i adael y coleg neu aros.

Mae Ffion hefyd yn ffilmio A470. Sheri-Lee ydy'r cymeriad geneth drefol iawn o'r Rhyl. Fe ymwelodd Ffion 芒'r dref droeon i geisio cael yr awyrgylch a hefyd i weld sut mae "genethod y dref" yn gwisgo ac yn siarad. Mae rhan o'r ffilmio wedi cymryd lle yn Y Rhyl felly mae Ffion yn gobeithio y bydd o fudd i'r dre.

Graddiodd Ffion eleni gyda gradd 2:1 mewn drama, cerdd ac astudiaeth o'r cyfryngau o Goleg y Drindod Caerfyrddin. Gobeithia yn wir y bydd pawb yn mwynhau ei phortreadau cymaint ag y mae hi'n mwynhau yr actio. Hoffai ddal ati i actio.

Rhian Salisbury, Rhuddlan.
Blwyddyn yn 么l cefais gyfle arbennig i gyfoethogi fy ngyrfa tu cefn y camer芒u teledu yn gweithio fel 3ydd cynorthwy-ydd cynhyrchu ar y gyfres boblogaidd Casualty, sydd erbyn hyn yn rhedeg ers 18 mlynedd.

Yn bennaf fy mhrif swydd ydy edrych ar 么l y bobl sy'n ymddangos yn y cefndir "yr ecstras". Mewn cyfres sydd wedi ei lleoli mewn ysbyty bydd "yr ecstras" hyn yn cynrychioli y doctoriaid, nyrsus a'r cleifion a fi fydd yn eu gosod y tu cefn ac o gwmpas yr actorion er mwyn gwneud i'r olygfa edrych mor real 芒 phosibl.

Mewn ward byddaf yn gosod cleifion mewn gwelyau, nyrsus yn tendio arnynt a chreu naws o'r prysurdeb sydd i'w gael mewn ward Casualty heddiw. Un o'm hoff gyfrifoldebau ydy cael dewis be sy'n bod ar bob claf e.e. pwy sy'n gwaedu i farwolaeth neu pwy sydd wedi torri dwy goes!

Mae'r gwaith yn gofyn am lawer o ganolbwyntio yn enwedig pan fydd dros hanner cant o ecstras i'w cyfarwyddo mewn golygfa, heb s么n am gofio ble bydd pob un yn symud o fewn yr olygfa.

O weithio ar Casualty rwyf hefyd yn cael y cyfle i weithio ag actorion profiadol a chael gwylio sawl stynt anhygoel, a brawychus yn cael ei saethu. Un o'r stynts mwyaf cyffrous oedd gwylio dau foi stynt mewn awyren fechan yn cael ei throelli ar graen anferth ac yna'n cael ei gollwng i'r ddaear i ymddangos fel ei bod yn plymio i'r ddaear!

Ar 么l cyfnod o saith mis yn gweithio ar y gyfres Casualty manteisiais ar y cyfle i fynd i drafeilio o gwmpas Seland Newydd am fis. Profiad bythgofiadwy! Yna bu^m yn gweithio am gyfnod ar y gyfres Hollyoaks yn Lerpwl.

Bellach rwy'n n么l ar y gyfres Casualty ac yn dal i fwynhau. Beth fydd y cam nesaf - pwy a 诺yr!

Rebecca Trehearn, Rhyl
Graddiodd Rebecca gyda gradd 2:1 BA mewn Perfformio Cerddorol, Academi Celfyddyd, Theatr Mountview Llundain.

Fel Ffion mae Rebecca hefyd yn ymddangos yn y rhaglen A470. Ddechrau mis Hydref roedd hi yng Nghaerdydd yn ffilmio Wow Ffactor. Cafodd Rebecca wahoddiad i Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ond yn anffodus ni allodd fynd gan ei bod yn ffilmio yn Leeds yr un pryd.

Ar Awst 7 eleni gwelwyd Rebecca ar Casualty fel merch oedd wedi llwyddo fel 'Slimmer of the Year' ond nid aeth popeth fel y disgwyliwyd. Portreadu merch ffiaidd o Gaerdydd oedd hi a bu raid iddi ddefnyddio acen Caerdydd.

Ei chariad cyntaf yw sioeau cerdd a'i nod yw cael rhan mewn un. Y Nadolig yma mae hi'n chwarae rhan y dywysoges yn y pantomeim Aladdin. Dyna hefyd oedd y rhan a chwaraeodd gyntaf mewn pantomeim yn Theatr Fach Rhyl.

Dyfan Tudur, Llanelwy
Y peth anoddaf am weithio yn adran Newyddion Radio Cymru, ydi cofio ar ba amser o'r dydd y mae rhywun fod i weithio! Ar rai dyddiau mae gofyn bod yn bresennol am hanner awr wedi pedwar y borw; dro arall fydd dim angen cyrraedd y swyddfa tan dri o'r y prynhawn.

Weithiau mae rhywun yn ysgrifennu bwletinau drwy'r penwythnos, tra mai trefnu eitemau ar gyfer Post Cyntaf ydi'r dasg ambell brynhawn dydd Sul. A dweud y gwir mae'r corff a'r meddwl yn drysu'n aml!

Ond mae'n rhaid gofyn wedyn, beth fyddai orau: gwneud yr un y gwaith o naw tan bump ddydd ar 么l dydd, neu mwynhau'r amrywiaeth o dasgau ac oriau? Er fy mod i'n trefnu cyfweliadau o bryd i'w gilydd, ysgrifennu a darllen bwletinau ydi fy ngwaith yn bennaf. Mae hyn - yn fras - yn golygu cyrraedd y swyddfa am ddeg y bore, a darlledu wedyn rhwng un a chwech.

Ambell dro, does dim llawer yn digwydd ond weithiau mae straeon yn cyrraedd o bob cyfeiriad. Tydw i byth yn debygol o anghofio'r prynhawn dydd Gwener hwnnw, er enghraifft, pan gafodd Ken Bigley ei ladd yn Irac. 'Roedd dilyn datblygiadau'r wythfed o Hydref yn flinedig a dweud y lleiaf, ac yn brofiad rhyfedd ar yr un pryd.

Gan mai straeon o Gymru sy'n cael y prif sylw ar Radio Cymru gan amlaf, tydi'r opsiwn o darfu ar raglen arall er mwyn darlledu bwletin arbennig ddim yn codi'n aml, ond 'roedd tynged y peiriannydd o Lerpwl yn un o'r enghreifftiau prin hynny. Ni fu angen tarfu, fel y digwyddodd, gan mai yn ystod y 'Post Prynhawn' y daeth y cadarnhad yn y pen draw. Fodd bynnag roedd gwybod fod 'na bob amser bosibilrwydd o orfod gwneud hynny, yn golygu fod gofyn canolbwyntio o un eiliad i'r llall.

Dyna - o bosib - ydi'r sialens fwyaf yn y swydd yma. Os oes newyddion o wir bwys yn cyrraedd ar ganol bwletin, a bod gofyn darlledu'r newyddion hwnnw fwy neu lai yn syth, mae'n rhaid cyfieithu ar y pryd i bob pwrpas. Yn wahanol i'n cydweithwyr dros Glawdd Offa (heb anghofio ein chwaer orsaf Radio Wales) rydi hi ddim yn bosib darllen y wybodaeth fel y mae o wedi'n cyrraedd. Y peryg wedyn, wrth gwrs, ydi y bydd rhywun yn gwneud camgymeriad!

Heb os, dyna'r elfen bwysicaf o'r gwaith sef edrych ar bob stori yn fanwl iawn, er mwyn sicrhau bod y ffeithiau i gyd yn gywir. Mae cyflwyno'r wybodaeth mewn modd sy'n ddealladwy i bawb hefyd yn bwysig, ac mae'n rhaid cofio ein bod ni'n ceisio darparu gwasanaeth i bobl o gefndiroedd ac ardaloedd gwahanol iawn i'w gilydd.

Ydi, mae'n waith blinedig iawn, a does gan neb unrhyw syniad beth ddigwydd nesaf. Tydw i ond yn gallu dychmygu enghraifft, sut brofiad oedd bod yn y swyddfa newyddion ar Fedi yr unfed ar ddeg dair blynedd yn 么l. Yn anffodus, mae'n ddigon posib y gwelwn ni ddiwrnod tebyg yn y dyfodol ond does dim diben meddwl rhyw lawer am y peth. Ni 诺yr neb beth fydd yr amgylchiadau. Y peth pwysicaf i mi, ar y funud, ydi ceisio cofio faint o'r gloch y mae gofyn i mi fod yn y swyddfa yfory!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
成人论坛 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 成人论坛 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy