Agorwyd yr ysgol yma ym mis Mai 1949 yn Ysgoldy Capel Rehoboth, yn Stryd Chwitffordd y dref, gyda dim ond wyth o blant, dan lygad gofalgar eu hathrawes Lisa Rowlands. O'r dechrau cynnar hwn y sefydlwyd Ysgol Gwenffrwd fel ysgol cyfrwng Cymraeg.
Ym 1950 apwyntiwyd Miss Bessie Jones fel athrawes yn Ysgol Gwenffrwd, a chyfrannodd hi lawer at lwyddiant yr ysgol hyd ei hymddeoliad ym 1966. Ym 1958, ac erbyn hyn 63 o ddisgyblion, penodwyd Mr R. A. Roberts fel prifathro cyntaf yr ysgol ac olynwyd ef gan Mr Morien Phillips, a oedd yn brifathro rhwng 1961 a 1967. Yn ystod y cyfnod hwnnw tyfodd niferoedd y disgyblion i 100.
Yn 1968 penodwyd Mr G. Wyn Owens yn brifathro ac erbyn hyn roedd yr ysgol wedi adleoli i adeilad a fu unwaith yn Ysgol Fabanod Spring Gardens yn Well Street. Cafodd ei ddatgymalu a'i ail godi ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maesglas. Nawr fe'i defnyddir fel ysgol Fictorianaidd nodweddiadol ac atyniad twristiaid poblogaidd.
Yn dilyn ymadawiad Mr Wyn Owens yn 1973, daeth Mrs Glenys Lloyd Jones yn brifathrawes weithredol dros dro cyn i Mr Gron Ellis gael ei apwyntio yn 1975. Erbyn hynny roedd niferoedd yr ysgol wedi cynyddu i oddeutu 150.
Ym Mhasg 1975 symudodd Ysgol Gwenffrwd unwaith yn rhagor i adeilad cynllun agored gan rannu'r cyfleuster gydag Ysgol Gatholig St Winefride's Catholic School. Symudwyd i'w cartref presennol 'n么l yn 1985 a oedd gynt yn ysgol uwchradd cwfaint.
Rhwng 1988 a 1991, tra roedd y prifathro Gron Ellis ar secondiad yn hyrwyddo addysg gymunedol o fewn y sir, apwyntiwyd Mr Moi Parri yn bennaeth yr ysgol. Ar 么l dychwelyd i'r ysgol yn 1991 roedd Gron Ellis yn brifathro hyd ei ymddeoliad ym Mhasg 1997.
Yn dilyn ei ymddeoliad, penodwyd Mrs Enid Williams yn brifathrawes weithredol dros dro am un tymor cyn y penodwyd y brifathrawes bresennol, Miss M. Iola Owen, ym mis Medi'r flwyddyn honno.
|